Newyddion S4C

Paula Vennells yn 'crio dros ei hun' wrth roi tystiolaeth i'r Ymchwiliad Swyddfa'r Post meddai cyn is-bostfeistr o Wynedd

24/05/2024

Paula Vennells yn 'crio dros ei hun' wrth roi tystiolaeth i'r Ymchwiliad Swyddfa'r Post meddai cyn is-bostfeistr o Wynedd

Nôl i barhau a'i thystiolaeth. Paula Vennells yn gwybod bod ei dagrau a'i hymddiheuriad ddoe yn hawlio'r penawdau.

Ond wrth i'r sylw droi i'r etholiad roedd 'na lawer llai o gamerâu tu fas i Aldwich House. Pori drwy'r manylion y mae'r bargyfreithiwr wrth holi'r cyn-Brif Weithredwr.

Pam yr oedd cwmni Second Sight wedi ei ddewis i gynnal adolygiad? A'r adolygiad yna'n dethol dim ond tri achos i weld os oedd diffygion system Horizon wedi arwain at erlyn gymaint o is-bostfeistri ar gam.

"There is no way I would have wanted to persuade Second Sight on something they were not prepared to say."

Ar sawl achlysur, atebodd nad yw hi bellach yn gallu cofio manylion. "I don't know." Mynnodd nad oedd hi wedi trio dod a'r adolygiad i namau Horizon i ben.

"I was not trying to close anything down."

Ymhlith y miloedd sy'n gwrando ar bob gair, Cledwyn Jones, cyn-is-bostfeistr ym Methel. Talodd bron i £44,000 o'i boced ei hun i Swyddfa'r Post am nad oedd ffigurau Horizon yn mantoli.

Talu i osgoi achosion llys a'r bygythiad o garchar.

"Iddi hi ddeud bod hi ddim yn gwybod be sy'n mynd ymlaen i fi, mae'n deud celwyddau. Dw i wedi bod yn gwatshiad hi ac mae methu ateb y cwestiynau. Mae hi'n by-pasio fo i rywun arall sydd yn y swyddfa.

"Mae'n gwybod yn union be sydd wedi bod yn mynd ymlaen. Crio dros ei hun oedd hi, dim crio dros ni."

Clywodd yr ymchwiliad hefyd am bryderon mewnol y Swyddfa Bost bod yr adolygiad yn niweidio delwedd y cwmni yn y wasg.

"You did take the advice of the PR guy, didn't you?"

"I really don't remember it relating to the decision."

"Hang on now, please. Thank you."

Roedd y gynulleidfa'n rhyfeddu.

"Maen nhw'n cuddio, galw fo'n Horizons scandal. Ond dw i'n meddwl mae'r cymunedau'n galw fo'n Post Office scandal. Mae'n amlwg na'r Swyddfa'r Post ydy'r rhan fwyaf sy'n involved. Mae'n anodd iawn dod trwy hyn yn sydyn.

"Bydd e'n cymryd blynyddoedd i'r brand wella'r enw da."

Hwn yw'r tro cynta mewn degawd i Paula Vennells drafod sgandal Horizon yn gyhoeddus. Degawd welodd y gwir yn dod o'r gorwel.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.