Newyddion S4C

Y llofrudd Lucy Letby'n methu yn ei chais i apelio ei heuogfarnau

24/05/2024
Lucy letby

Mae cais y llofrudd plant Lucy Letby i herio ei heuogfarnau yn y Llys Apêl wedi methu.

Mewn gwrandawiad fis diwethaf, fe ofynnodd tîm cyfreithiol Letby am ganiatâd i gyflwyno apêl yn erbyn ei heuogfarnau.

Mewn gwrandawiad byr ddydd Gwener cyhoeddodd y Fonesig Victoria Sharp, yr Arglwydd Ustus Holroyde a Mrs Ustus Lambert eu bod yn gwrthod cais Letby.

Ym mis Awst 2023, cafwyd Letby ei dedfrydu i garchar am oes, ar ôl i reithgor ei chael yn euog o lofruddio saith o fabanod a cheisio llofruddio chwech yn rhagor.  

Cyflawnodd y troseddau yn Ysbyty Iarlles Caer rhwng Mehefin 2015 a Mehefin 2016.

Nid oes modd adrodd manylion llawn cais apêl Letby, a gafodd ei ddadlau ar bedwar pwynt, am resymau cyfreithiol.

Mae'r canlyniad ddydd Gwener yn golygu bod ei phroses apêl wedi dod i ben.

Nid oedd y rheithgor gwreiddiol yn achos Letby yn Llys y Goron Manceinion wedi gallu dod i ddyfarniad ar chwe chyfrif o geisio llofruddio.

Fe fydd Letby yn wynebu ail achos yn yr un llys ym mis Mehefin ar gyfrif unigol o geisio llofruddio merch fach, o’r enw Plentyn K, ym mis Chwefror 2016.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.