Newyddion S4C

Disgwyl i Lucy Letby ddarganfod os yw ei chais i herio ei heuogfarnau yn llwyddiannus

24/05/2024
Lucy letby

Mae disgwyl i'r llofrudd plant Lucy Letby ddarganfod os yw ei chais i herio ei heuogfarnau yn y Llys Apêl wedi bod yn llwyddiannus.

Mewn gwrandawiad fis diwethaf, fe ofynnodd tîm cyfreithiol Letby am ganiatâd i gyflwyno apêl yn erbyn ei heuogfarnau.

Mae disgwyl i'r Fonesig Victoria Sharp, yr Arglwydd Ustus Holroyde a Mrs Ustus Lambert roi eu penderfyniad ar y cais apêl mewn gwrandawiad ddydd Gwener.

Ym mis Awst 2023, cafwyd Letby ei dedfrydu i garchar am oes, ar ôl i reithgor ei chael yn euog o lofruddio saith o fabanod a cheisio llofruddio chwech yn rhagor.  

Cyflawnodd y troseddau yn Ysbyty Iarlles Caer rhwng Mehefin 2015 a Mehefin 2016.

Ar hyn o bryd, nid oes modd adrodd manylion llawn cais apêl Letby, a gafodd ei ddadlau ar bedwar pwynt, am resymau cyfreithiol.

Os bydd y barnwyr yn gwrthod rhoi sêl bendith i'r her, yna bydd proses apêl Letby yn dod i ben.

Does dim disgwyl i'r rhesymau llawn dros benderfyniad y beirniaid gael eu cyhoeddi ddydd Gwener.

Nid oedd y rheithgor gwreiddiol yn achos Letby yn Llys y Goron Manceinion wedi gallu dod i ddyfarniad ar chwe chyfrif o geisio llofruddio.

Fe fydd Letby yn wynebu ail achos yn yr un llys ym mis Mehefin ar gyfrif unigol o geisio llofruddio merch fach, o’r enw Plentyn K, ym mis Chwefror 2016.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.