Bangor: Car yn disgyn o ffordd i mewn i ochr fflatiau
23/05/2024
Bangor: Car yn disgyn o ffordd i mewn i ochr fflatiau
Cafodd y Gwasanaeth Tân ei alw i Fangor ddydd Iau wedi i gar fynd yn sownd o flaen bloc o fflatiau.
Roedd y car wedi rowlio oddi ar Ffordd yr Orsaf ym Mangor Uchaf o gwmpas 19:00 nos Iau, cyn mynd yn sownd o flaen yr adeilad.
Dywedodd llefarydd ar ran y Gwasanaeth Tân eu bod wedi cael eu galw i sicrhau nad oedd neb wedi eu hanafu.
Fe wnaethant gadarnhau nad oedd unrhyw unigolion wedi eu hanafu yn ystod y digwyddiad.
Roedd un injan dân ac un car heddlu heb ei farcio yn bresennol.