Newyddion S4C

Enwebiad gwobr dewrder i heddwas am achub menyw a'i chi oddi ar ochr argae

23/05/2024
Rhodri Jones

Mae un o swyddogion Heddlu Dyfed Powys wedi cael ei enwebu am wobr wedi iddo achub menyw a'i chi oedd wedi mynd yn sownd mewn argae cronfa ddŵr.

Roedd Rhodri Jones, 45 oed, wedi achub y ddau oedd yn sownd ar lifddor, math o giât sydd yn cael ei ddefnyddio i reoli llif y dŵr, 20 troedfedd i lawr Argae Caban Coch yng Nghwm Elan ym mis Awst y llynedd.

Mae ef wedi cael ei enwebu ar gyfer un o Wobrau Dewrder Cenedlaethol yr Heddlu.

Cafodd yr heddwas a PC Peter Evans eu danfon i'r lleoliad yn dilyn galwad gan ddyn, oedd wedi adrodd bod ei ddau gi wedi cwympo oddi ar ochr y gronfa ddŵr.

Roedd yn ymddangos fod un o'r cŵn wedi marw tra bod y llall wedi ei anafu'n ddifrifol ar y cerrig.

Roedd partner y dyn wedi neidio lawr i'r llifddor i geisio achub y ci ond anafodd ei braich a'i hwyneb wrth wneud hynny.

'Methu aros hirach'

Dywedodd Mr Jones nad oedd yn sylweddoli difrifoldeb y sefyllfa cyn iddo gyrraedd, a bu rhaid iddo weithredu yn gyflym gan fod y tîm achub mynydd a'r gwasanaeth tân yn bell i ffwrdd.

"Roedd yn ddydd Sul tawel arferol cyn yr alwad," meddai. "Dwi ddim yn meddwl ein bod ni wedi sylweddoli difrifoldeb y sefyllfa i ddechrau.

"Fe ddaeth i'r pwynt lle'r oedden ni'n gwybod nad oedden ni'n gallu aros yn hirach. Nid yn unig oeddynt yn sownd ar blatfform bach, heb le i symud, roeddynt wedi dioddef anafiadau."

Penderfynodd y swyddogion i agor drws i siambr lle'r oedd dŵr yn gallu gorlifo, lle'r oedd Mr Jones yn gallu symud i lawr a neidio i ochr y llifddor.

Roedd wedi cropian i ochr y llifddor er mwyn gallu taflu rhaff i'r fenyw a'i chi a'u tynnu i leoliad mwy diogel.

"Roedd yn ymdrech tîm gan Peter a minnau," meddai.

"Roedd o wedi aros ar y siambr yn dal un ochr o'r rhaff, tra fy mod i wedi gwneud y penderfyniad i fynd lawr i'r llifddor.

"Nid oeddem wedi cael sgwrs fawr - roeddem wedi gweithredu mor gyflym ag y gallem."

O fewn 20 munud roedd y gwasanaeth tân wedi cyrraedd ac roedd y fenyw a'i chi wedi cael eu symud i ddiogelwch.

'Gwerthfawrogi'n fawr'

Roedd y fenyw wedi torri ei braich tra bod y ci wedi cael ei gludo i'r milfeddyg agosaf i dderbyn triniaeth.

“Rydw i wedi cael gwybod ei bod yn ddiolchgar iawn am yr holl gymorth," meddai Rhodri Jones.

"Mae rhai o fy nghydweithwyr hefyd wedi cydnabod pa mor heriol oedd y sefyllfa a pha mor dda roeddwn i wedi gweithredu, ac rwy’n gwerthfawrogi hynny’n fawr.”

Bydd Rhodri yn mynd i Wobrau Dewrder Cenedlaethol yr Heddlu sydd yn cael yn ei gynnal ar 11 Gorffennaf yn Llundain.

“Roeddwn i mor falch pan wnes i ddarganfod fy mod wedi cael fy enwebu," meddai.

"Mae cymaint o waith da yn cael ei wneud gan swyddogion heddlu ym mhobman – allwch chi ddim adnabod pawb, felly rydw i wrth fy modd i fod yn un o’r ychydig sydd wedi derbyn y gydnabyddiaeth."

Llun: Ffederasiwn Heddlu Dyfed-Powys

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.