Gwesty moethus yn agor i westeion pedair coes
Fe fydd gwesty moethus i gŵn yn agor yng Nghwmbrân yn Nhorfaen fis Mehefin.
Bydd busnes teuluol Cwtch Animal Homestay yn agor eu gwesty moethus ddechrau Mehefin, sef yr un cyntaf o'i fath yn ne Cymru.
Mae'r busnes wedi ei leoli yn Henllys yng Nghwmbrân, ac yn cael ei redeg gan Cathy King a'i mab Jesse Rendell.
Mae gan y gwesty 12 ystafell foethus 'di-gawell' ar gyfer yr anifeiliaid, gyda system wresogi o dan y llawr hefyd.
Mae'r busnes eisoes yn berchen ar barc antur i gŵn,
Mewn neges ar eu gwefan, dywed y cwmni fod y gwesty yn cynnig "amgylchedd diogel...ar gyfer chi a'ch ci i fwynhau amser arbennig gyda'ch gilydd.
"Mae ein parciau cŵn diogel yn berffaith er mwyn mynd â'ch chi am dro mewn amgylchedd diogel, heb boeni am ymyrraeth cŵn a pherchnogion eraill."
Llun: Cwtch Animal Homestay