Newyddion S4C

'Twll ariannol' yn fygythiad i adfer safle glo-brig Ffos-y-Fran

22/05/2024
ffos y fran.png

Fe allai cynlluniau i adfer safle glo-brig olaf y DU gael eu cyfyngu'n sylweddol o achos twll ariannol o ddegau o filiynau o bunnoedd.

Clywodd ASau ar Bwyllgor Newid Hinsawdd Senedd Cymru dystiolaeth gan swyddogion o Gyngor Merthyr Tudful, oedd wedi gwrthod rhoi tystiolaeth geiriol am adfer safle Ffos-y-Fran yn wreiddiol.

Dywedodd David Cross, prif swyddog cynllunio'r cyngor wrth y pwyllgor fod amcangyfrif o gost adfer y safle rhwng £75m a £125m.

"Realiti'r sefyllfa yw mai dim ond £15m sydd ganddo ni", meddai, gan ychwanegu y byddai'r cynlluniau adnewyddu'n "wahanol iawn i'r hyn yr oeddem wedi ei gytuno'n wreiddiol."

Cododd Llŷr Gruffydd A.S. bryderon am y cwmni sydd yn rhedeg y safle, Merthyr (South Wales) Ltd (MSW), yn clustnodi £15m ar gyfer y gwaith adnewyddu tra bod cyfrifon y cwmni'n cyfeirio at gost o bron i £75m.

Gofynnodd Mr Gruffydd, sydd yn cadeirio'r pwyllgor: "Beth mae'r £74.5m yma sydd yn eistedd mewn banc yn ei wneud felly os nad ydyn nhw'n credu mai dyma yw'r pwrpas?"

Atebodd Mr Cross: “Os yw'r arian yno neu beidio, mae hynny'n fater i MSW.”

Addewid

Dywedodd Geraint Morgan, cyfreithiwr ar ran yn y cyngor, fod caniatâd cynllunio cychwynnol wedi ei roi gan y Cynulliad ar y pryd yn 2005, gyda cais am addewid o £15m a gwarant o £15m.

Eglurodd Mr Morgan bod MSW wedi cytuno i dalu £625,000 i Miller Argent bob chwarter, pan werthwyd y safle yn 2015.

Wrth gael ei holi am lle mae'r £15m wedi mynd, dywedodd Mr Morgan: “Ni allaf ateb hynny mewn gwirionedd. Dim ond gwerth cwmni yw gwarant rhiant-gwmni.”

Dywedodd fod cyfrifon diweddaraf yn dangos tua £104,000 yn Merthyr Holdings Ltd, y rhiant-gwmni.

“Mae hynny’n fwy difrifol nag oeddwn i’n meddwl,” meddai Janet Finch-Saunders, aelod y Torïaid dros Aberconwy, gan godi pryderon am y £15m “sydd i’w weld yn rhywle yn yr ether”.

Gan bwysleisio mai mater i'r datblygwr yw adfer y safle, dywedodd Mr Morgan wrth y pwyllgor mai'r gred o'r cychwyn oedd na fyddai £15m o reidrwydd yn ddigon i adfer y safle.

Dywedodd fod y cwmni wedi methu â gwneud taliadau a bu'n rhaid i'r cyngor ddwyn achos yn yr uchel lys, ond mae'r datblygwr bellach wedi bodloni'r gofyniad escrow o £15m.

'Heriol'

Disgrifiodd Ellis Cooper, prif weithredwr y cyngor, y berthynas gyda'r datblygwr fel un heriol, gan ddweud y bydd cynllun adfer diwygiedig yn cael ei gyflwyno erbyn mis Tachwedd.

Pan ofynnwyd iddo am bryderon y gallai'r gweithredwr adael y safle neu ddatgan ei fod yn ansolfedd, dywedodd Mr Morgan y gallai'r safle fod yn eiddo i Lywodraeth Cymru neu Ystad y Goron yn y pen draw.

Dywedodd wrth y cyfarfod ddydd Mercher fod y cyngor yn ail-drafod telerau ar gyfer defnyddio'r arian escrow i ganiatáu rhywfaint o waith adfer yn unol â strategaeth gafodd ei chymeradwyo yn 2007.

Dywedodd y bydd y cytundeb yn cael ei ddrafftio fel bod yr arian yn cael ei ryddhau ar ôl i'r gwaith gael ei wneud.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.