Newyddion S4C

Y Prif Weinidog yn galw Etholiad Cyffredinol ym mis Gorffennaf

22/05/2024

Y Prif Weinidog yn galw Etholiad Cyffredinol ym mis Gorffennaf

Mae'r Prif Weinidog Rishi Sunak wedi cyhoeddi y bydd Etholiad Cyffredinol yn cael ei gynnal ym mis Gorffennaf.

Bydd yr etholiad yn cael ei gynnal ar ddydd Iau, 4 Gorffennaf, a Senedd San Steffan yn cael ei ddiddymu yr wythnos nesa'.

Wrth gyhoeddi’r etholiad cyffredinol, dywedodd Rishi Sunak: “Y sefydlogrwydd economaidd yma oedd y dechrau yn unig, y cwestiwn rwan ydi sut a phwy ydyn ni’n ymddiried ynddyn nhw er mwyn troi’r sylfaen yma yn ddyfodol diogel ar eich cyfer chi, eich teulu ac ein gwlad?

“Rwan ydi’r amser i Brydain i ddewis ei dyfodol, i benderfynu os ydyn ni eisiau adeiladu ar y cynnydd sydd wedi ei wneud neu wynebu’r risg o fynd yn ôl i’r cam cyntaf heb gynllun a heb sicrwydd.

“Yn gynharach heddiw, siaradais gydag Ei Fawrhydi y Brenin i ofyn i ddiddymu’r Senedd.

“Mae’r Brenin wedi cymeradwyo y cais hwn ac fe fydd etholiad cyffredinol yn cael ei gynnal ar 4 Gorffennaf.”

Dilynwch yr ymateb i gyhoeddiad Rishi Sunak ar ein blog byw.

Daw’r cyhoeddiad yn dilyn y newyddion ddydd Mercher bod cyfradd chwyddiant wedi gostwng i 2.3% ym mis Ebrill, arwydd meddai Llywodraeth y DU bod yr economi wedi “troi cornel”.

Dyma fydd yr Etholiad Cyffredinol cyntaf ers i nifer etholaethau Cymru gael eu cwtogi o 40 i 32.

Bydd hynny’n golygu bod pob etholaeth yng Nghymru ond Ynys Môn wedi cael ffiniau newydd.

Dyma hefyd fydd yr Etholiad Cyffredinol cyntaf ers i reolau newydd ddod i rym fydd yn gofyn i bobl fynd â dull adnabod gyda nhw i’r orsaf bleidleisio.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.