Newyddion S4C

Angen ‘blaenoriaethu’ pobl fregus sy'n derbyn gwaith cynllun gwresogi

21/05/2024

Angen ‘blaenoriaethu’ pobl fregus sy'n derbyn gwaith cynllun gwresogi

Mae angen ‘rhoi’r grym’ i bobl fregus sydd yn derbyn gwaith drwy’r cynllun ECO4 i adnewyddu systemau gwres yn eu cartrefi, yn ôl yr Aelod Seneddol Liz Saville-Roberts.

Wrth drafod y cynllun yn Nhŷ’r Cyffredin ddydd Mawrth, dywedodd Ms Saville-Roberts ei bod wedi derbyn cwynion gan etholwyr am gwmnïau sydd yn darparu'r gwaith.

Ymhlith y cwynion sydd wedi eu codi mae “gwaith is-safonol” a’r “amser” y mae’n ei gymryd i gwmnïau i gwblhau’r gwaith, sydd yn cynnwys gosod pympiau gwres, paneli solar ac insiwleiddio cartrefi.

Dywedodd Ms Saville-Roberts, llefarydd Plaid Cymru ar ynni yn San Steffan: “Mae’ rhai o’r bobl dwi wedi siarad hefo nhw yn teimlo dan bwysau yn eu cartref eu hunain. 

“Ac am gynllun, sydd i fod i wneud gwahaniaeth sylweddol er gwell gydag oedran ein tai ni yng nghefn gwlad Cymru, mae’n teimlo fel bod un cam amlwg ar goll, sef diogelu pobl fregus, a hynny ar adeg pan da ni’n trio gwneud hyn i wella bywydau bobl fregus a gwneud gwresogi eu tai nhw yn haws ac yn rhatach.”

Daw hyn wedi i ymchwiliad gan Newyddion S4C ddatgelu bod gwaith gan gwmni Consumer Energy Solutions (CES) o Abertawe wedi cael ‘effaith sylweddol’ ar iechyd rhai pobl ar draws Cymru a Lloegr.

Ymhlith y bobl sydd wedi rhannu eu profiadau, mae nifer ohonynt gydag anghenion iechyd dwys, anableddau, neu’n oedrannus.

Mae CES wedi dweud eu bod yn “ymwybodol” o'r problemau ond nad yw’n “briodol gwneud sylwadau” ar achosion penodol yr unigolion sydd wedi siarad gyda Newyddion S4C.

'Blaenoriaethu'

Wrth holi’r Amanda Solloway, is Weinidog yn Adran Net Sero Llywodraeth y DU, sydd yn gyfrifol am weinyddu’r cynllun ECO4, fe wnaeth Ms Saville Roberts gyfeirio at achos Beverley Scott o Langwnnadl, oedd y rhan o ymchwiliad Newyddion S4C.

Image
Beverley Scott
Beverley Scott

Dywedodd Ms Scott, sydd yn byw gyda chanser nad oes modd gwella ohono, bod hi â’i gŵr wedi eu gorfodi i gysgu ar fatresi yn eu hystafell fyw am bron i fis, gan nad oedd gwres na dŵr poeth yn gweithio yn y tŷ yn ystod gwaith gan CES.

Roedd hefyd wedi hawlio miloedd gan y cwmni drwy’r llysoedd i adfer difrod yn dilyn gwaith. Dywedodd fod y cyfnod “heb wneud daioni” i’w hiechyd.

Dywedodd Ms Saville-Roberts fod angen i gleientiaid sydd yn derbyn y gwaith gael y gallu i roi “sêl bendith” i’r gwaith, cyn bod cwmni yn derbyn arian am gyflawni’r gwaith.

“Yr hyn sydd wedi fy nharo i yn yr achosion sydd wedi dod o fy mlaen i, ydy bod gennyn ni bobl sydd yn fregus hefo cyflwr iechyd, cyflyrau eraill, sydd yn gymwys ar gyfer ECO4. Mewn ambell i achos, maen nhw’n cael eu gadael erbyn y diwedd, gyda gwaith sydd yn is-safonol a neb yna i’w helpu nhw.

“Nawr, pan mae gennych chi bobl fregus, dwi’n teimlo fod 'na le i bryderu mai’r hyn sy’n gyrru’r cwmnïau yma ydy – mynd i mewn, gwneud y gwaith maen nhw’n gallu gwneud hawsaf, is-gontractio i bobl eraill cyn gynted â phosib, nhw yn mynd i mewn, allan cyn gynted â phosib, hawlio’r arian, a mynd ymlaen.

“Dwi yn derbyn bod llawer iawn, iawn o’r cwmnïau yma yn gwneud gwaith arbennig o dda. Ond mae’r achosion sydd wedi dod ger fy mron i, mae’n amlwg i fi petai rywun wedi bod yna i seinio’r gwaith ‘ma i ffwrdd, cyn bod y cwmni yn gallu hawlio eu harian, bydda 'na ysgogiad a gorfodaeth ar y cwmnïau i ddod yn ôl, gorffen y gwaith a gwneud o i safon.

Image
ECO4

“Dwi’n meddwl bod gennyn ni ddyletswydd os da ni’n blaenoriaethu pobl fregus yn eu cartrefi, mae’n rhaid i ni i sicrhau bod ysgogiadau eraill - gwneud arian, mynd i mewn ac allan yn sydyn - bod 'na ysgogiadau eraill ddim yn drech nag anghenion unigolion.”

Ymateb

Dywedodd llefarydd ar ran yr Adran dros Ddiogelwch Ynni a Net Sero: “Mae’n rhaid gosod systemau effeithlonrwydd ynni a gwres carbon isel o dan gynlluniau’r llywodraeth i safonau uchaf y diwydiant.

“Mae’r gofyniad am gofrestriad TrustMark o dan ECO yn golygu bod mecanweithiau amddiffyn cryf yn eu lle ar gyfer defnyddwyr sydd yn derbyn gwaith dan y cynlluniau hynny.”

Dywedodd llefarydd ar ran CES: "Mae CES yn siomedig i glywed am unrhyw gwsmer sydd ddim yn fodlon gyda'u cynnyrch a gwasanaethau.

“Fel cwmni Cymreig, mae CES yn falch o fod wedi cynorthwyo miloedd o gwsmeriaid bodlon i wneud gwelliannau effeithlonrwydd ynni i’w cartrefi ledled Cymru. 

“Mae CES yn parhau i fod yn ymrwymedig i ddarparu'r gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol sydd yn cael ei gydnabod yn ei sgôr 4.5 seren ar Trustpilot, sydd yn seiliedig ar dros 1,600 o adolygiadau. 

“Mae CES yn ymwybodol o’r materion a godwyd gan yr unigolion sydd wedi cysylltu â chi ac sydd wedi ceisio datrys eu pryderon, ond nid yw’n ystyried ei bod yn briodol gwneud sylwadau ar faterion penodol ar hyn o bryd.  

“Mae Consumer Energy Solutions yn ymwybodol o’r materion a godwyd ac mae’n gweithio i ddod â’r materion hyn i ddatrysiad cyflym.”

Prif lun: Parliamentlive.tv

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.