Newyddion S4C

Cyhoeddi enwau'r Cymry sydd yn cael eu derbyn i'r Orsedd eleni

21/05/2024

Cyhoeddi enwau'r Cymry sydd yn cael eu derbyn i'r Orsedd eleni

Mae Noel Thomas wedi bod yn enw amlwg yn helynt Swyddfa'r Post.

Ac yntau wedi'i garcharu ar gam yn 2006.

"Sbïo ar y rhestr, mae'n anrhydedd bod ymysg pobl sy 'di bod yn Cambridge ac Oxford, Cardiff University."

Fis Awst eleni fe fydd yn cael ei urddo gyda'r Orsedd yn dweud bod hi'n gwbl briodol bod ei safiad yn cael ei gydnabod gan ei genedl ei hun.

"Wnes i 'rioed feddwl 'swn i'n cael anrhydedd fel hyn i fod ymysg y goreuon o Gymru."

Fe enillodd Elinor Snowsill 76 o gapiau dros Gymru cyn ymddeol.

Bydd yn cael ei hurddo ar yr un pryd a'i mam, yr arbenigwr bwyd Nerys Hywel.

"Mae'n arbennig bod mam a merch yn cael eu hurddo.

"Mae'n deimlad arbennig iawn.

"Mae e hyd yn oed yn fwy arbennig ac yn meddwl lot i fi gan fod yr Eisteddfod ym Mhontypridd."

"Hi sy 'di bod yn un o brif gefnogwyr fi dros y blynyddoedd.

"Mae 'di teithio ar draws y byd yn dilyn y gemau Canada, Awstralia, bobman."

Symudodd Theresa Mgadzah Jones a'i theulu o Zimbabwe pan oedd hi'n 12 oed.

Mae bellach yn byw yng Nghaerdydd ac wedi bod yn gweithio a'r Groes Goch.

"Mae'n fraint bod fy ngwaith gyda gwasanaethau ffoaduriaid y Groes Goch wedi cael ei adnabod y ffordd yma."

Mae Meilyr Hedd Tomos o Sir Benfro yn cael ei anrhydeddu am ei waith yn diddanu preswylwyr cartrefi gofal yn yr ardal ac am godi miloedd o bunnau i elusennau.

"Codi arian at Gymorth Cristnogol pan o'n i'n fach iawn.

"A hefyd yn casglu arian at elusennau canser a pethau.

"Mae'n wahanol. Fi wedi neud e ers blynyddau."

Digon o reswm i'r Gorseddogion i ddathlu ym Mhontypridd, fis Awst.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.