Newyddion S4C

Sgandal gwaed: Y taliadau iawndal cyntaf i'w cyflwyno cyn diwedd y flwyddyn

21/05/2024
sgandal gwaed.png

Mae Llywodraeth y DU wedi cadarnhau y bydd y taliadau iawndal llawn cyntaf i ddioddefwyr y sgandal gwaed yn cael eu cyflwyno cyn diwedd y flwyddyn. 

Dywedodd gweinidog y llywodraeth John Glen ei fod yn cydnabod fod angen gwneud hyn "ar frys" wrth iddo gyhoeddi hefyd y byddai nifer yn derbyn taliad ychwanegol o £210,000 o fewn 90 diwrnod. 

Mae Syr Robert Francis KC wedi cael ei enwi fel cadeirydd dros dro yr Awdurdod Iawndal Gwaed Heintiedig. 

Wrth siarad yn Nhŷ'r Cyffredin brynhawn Mawrth, dywedodd Mr Glen: "Ddoe, fe wnaeth y Prif Weinidog siarad am y boen a wynebodd y bobl a gafodd eu heffeithio gan y sgandal gwaed heintiedig. Dwi eisiau pwysleisio ei eiriau ac ymddiheuro eto heddiw.

"Fe fydd y rhai a gafodd eu heintio neu eu heffeithio o ganlyniad i'r sgandal yn derbyn iawndal."

Daeth yr adroddiad Ymchwiliad Gwaed Heintiedig i'r casgliad fod ymdrechion bwriadol wedi cael eu gwneud i guddio’r gwirionedd.

Mae’r adroddiad 2,527 tudalen, a gafodd ei gyhoeddi fore Llun, yn cyfeirio at “gatalog o fethiannau” a arweiniodd at ganlyniadau “trychinebus”.

Cafodd mwy na 30,000 o bobl HIV ac Hepatitis C ar ôl iddyn nhw gael gwaed neu drallwysiad gwaed oedd wedi ei heintio.

Mae tua 3,000 o bobl ym Mhrydain wedi marw ers derbyn y gwaed rhwng y 70au a'r 90au.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.