Newyddion S4C

‘Dwi wedi cael lot o stick ar Twitter am fod ar bandwagon Wrecsam’

22/05/2024
Ffion Higgs

Wrth i’r tymor pêl-droed ddirwyn i ben, a golygon Clwb Pêl-droed Wrecsam yn troi tuag Adran Un Lloegr y tymor nesa’, mae un cefnogwr benywaidd wedi bod yn sôn am brofiadau cymysg y mae hi wedi ei gael wrth ddilyn Wrecsam.

Dim ond ers i actorion Hollywood, Ryan Reynolds a Rob McElhenney gyrraedd Wrecsam mae Ffion Higgs wedi dechrau mynd i gemau’r clwb. Ond mae agwedd rhai o gefnogwyr y Dreigiau wedi ei siomi.

“Mae’n rhaid i mi gyfaddef, pan nes i fynd i’r gêm gyntaf ‘na yn erbyn Torquay, nes i ddweud yn agored, “I’m here to join the bandwagon”.

Ond a hithau'n ffan newydd, dywedodd Ffion nad oedd grŵp bach o’r hen gefnogwyr wedi rhoi croeso i’r cefnogwyr newydd.

“Roedden ni’n mynd â’u tocynnau nhw, roedden ni’n mynd â’u crysau nhw, crysau’n gwerthu allan -  bai ni oedd e, doedden ni fel ffans newydd ddim yn cael barn ar unrhyw beth am y stadiwm neu’r tocynnau, a doeddem ni ddim yn cael sôn am unrhyw chwaraewr, os oedd chwaraewr yn chwarae’n wael, doeddem ni [cefnogwyr newydd] ddim yn gwybod unrhyw beth am bêl-droed.”

'Teimlo'n ofnadwy'

Fe aeth Ffion ymlaen i ddweud ei bod wedi cael profiadau gwael ar blatfform Twitter am fod ‘on the bandwagon’.

“Mi oedd ‘na gyfnod lle roedd ffans gydol oes Wrecsam, criw bach ohonyn nhw oedd yn gwneud i fi deimlo’n ofnadwy ar y cyfryngau cymdeithasol, basically bod dim hawl gyda ni i gael y tocynnau, bod y life long fans ‘ma yn colli allan achos bod y bandwagoners ‘ma yn dod i gemau.

“Roedden nhw’n dweud ‘Oh you’re just a new fan, you’re only here to be Ryan’s best friend’”

Image
Ffion Higgs

“Dwi wedi cael fy ngalw yn enwau fedrai ddim dweud ar gamera, roedden nhw’n dweud ‘you know nothing about football ac yn mynd yn rili personol.

“Roedd yn gyfnod reit ddu dwi am ddweud, o’n i’n gorfod blocio Twitter, o’n i’n gorfod blocio pobl, neud o’n breifat, o nhw’n bombardio fi, roedd o’n reit horrible rili."

Mae Ffion yn un o wynebau'r ail gyfres o Wrecsam... Clwb Ni! sy'n ymddangos ar S4C ar hyn o bryd.

“Nath o wneud i fi deimlo fel ddylia fi ddim bod yn ffan o Wrecsam ‘I don’t deserve to be here’ falle ddyliwn i roi’r tocynnau ‘ma i rhywun sy’n lleol…

“O’n i’n teimlo bach yn distant o’r clwb am gyfnod, oni bach ar goll, oni fel ‘dwi’n rili caru’r clwb yma, a ma nhw’n dweud bod dim hawl gyda fi i garu’r clwb,” ychwanegodd Ffion.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.