Rhybudd melyn o storm fellt a tharanau i ran fwyaf o Gymru
21/05/2024
Mae’r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn o storm fellt a tharanau ar gyfer rhan fwyaf o Gymru.
Bydd y rhybudd tywydd yn effeithio ar bron pob yn sir yn y wlad rhwng 12:00 a 21:00.
Gall glaw ar y ffyrdd arwain at rywfaint o lifogydd sydyn mewn mannau.
Mae'n bosib hefyd y bydd rhai gwasanaethau bws a rheilffyrdd yn cael eu heffeithio gan y glaw.
“Gallai cawodydd trwm a storm mellt a tharanau arwain at rai lleoliadau yn gweld rhwng 20-30 mm o law mewn awr,” meddai’r Swyddfa Dywydd.
“Mae siawns bach y gallai ychydig o lefydd weld rhwng 40-50 mm."
Mae’r rhybudd tywydd yn berthnasol i’r siroedd canlynol:
- Blaenau Gwent
- Penybont
- Caerffili
- Caerdydd
- Sir Gaerfyrddin
- Ceredigion
- Conwy
- Sir Ddinbych
- Gwynedd
- Merthyr Tudful
- Sir Fynwy
- Castell-nedd Port Talbot
- Casnewydd
- Sir Benfro
- Powys
- Rhondda Cynon Taf
- Abertawe
- Torfaen
- Bro Morgannwg
- Wrecsam