Newyddion S4C

'Pryder gwirioneddol' y bydd canfyddiadau'r Ymchwiliad Gwaed yn cael eu hanwybyddu

21/05/2024
Ymchwiliad gwaed Heintiedig

Mae yna “bryder gwirioneddol” y bydd yr adroddiad Ymchwiliad Gwaed Heintiedig yn cael ei anwybyddu, meddai cadeirydd elusen Haemoffilia Cymru.

Roedd yr ymchwiliad wedi canfod bod ymdrechion bwriadol wedi cael eu gwneud i guddio’r gwirionedd.

Mae’r adroddiad 2,527 tudalen, a gafodd ei gyhoeddi fore Llun, yn cyfeirio at “gatalog o fethiannau” a arweiniodd at ganlyniadau “trychinebus”.

Syr Brian Langstaff gadeiriodd yr ymchwiliad.

 Fe ddywedodd y gellid bod wedi osgoi yr hyn ddigwyddoodd i raddau helaeth, ond ddim yn gyfan gwbl.

Cafodd mwy na 30,000 o bobl HIV ac Hepatitis C ar ôl iddyn nhw gael gwaed neu drallwysiad gwaed oedd wedi ei heintio.

Mae tua 3,000 o bobl ym Mhrydain wedi marw ers derbyn y gwaed rhwng y 70au a'r 90au.

'40 mlynedd o frwydro'

Dywedodd Lynne Kelly, Cadeirydd Haemoffilia Cymru mai’r “prif bryder” yng Nghymru yw sut y bydd y Llywodraeth yn ymateb i’r argymhellion.

“Rwy’n meddwl mai’r anhawster nawr yw y gallai argymhellion Syr Brian gael eu diystyru gan y llywodraeth neu eu hanwybyddu. Mae hynny’n bryder gwirioneddol i bobl, y gallai fod yn rhaid i ni barhau i ymladd ar ôl 40 mlynedd o frwydro."

Ychwanegodd bod iawndal yn bwysig i'r teuluoedd.

“..Dwi’n teimlo bod yr ymddiheuriad yn bwysig, ond y cam nesaf nawr, iawndal, mae hynny’n poeni llawer o bobol, achos yn amlwg maen nhw’n teimlo eu bod nhw eisiau cydnabyddiaeth.”

Mae'r Prif Weinidog, Rishi Sunak wedi addo y bydd "iawndal sylweddol"yn cael ei dalu i bobl a gafodd eu heffeithio gan y sgandal gwaed.

Fe wnaeth o gyhoeddi y byddai'r llywodraeth yn talu "beth bynnag mae'n costio" gyda disgwyl i'r llywodraeth amlinellu manylion yr iawndal ddydd Mawrth.

Wrth siarad yn Nhŷ'r Cyffredin brynhawn ddydd Llun, dywedodd Mr Sunak: "Faint bynnag mae'n costio er mwyn cyflwyno'r cynllun, fe fyddwn ni'n gwneud hyn."

Mae Ysgrifennydd Iechyd Cymru, Eluned Morgan wedi dweud ei fod yn briodol bod lleisiau pobl yn cael eu clywed a'u bod yn gobeithio bod canfyddiadau'r adroddiad "wedi rhoi atebion i'w cwestiynau a'u pryderon."

"Dyma'r sgandal gwaethaf o ran triniaethau gan y GIG. Er iddo ddigwydd cyn datganoli, fel Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Nghymru, hoffwn ymddiheuro i bawb a gafodd eu heintio ac sydd wedi dioddef yn sgil y methiant ofnadwy hwn," meddai.

Ychwanegodd y bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried argymhellion yr adroddiad "yn ofalus ac yn fanwl".

Llun: Tracey Croggon / PA

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.