Newyddion S4C

Comisiynydd y Gymraeg yn wynebu toriadau

20/05/2024
Efa Gruffudd Jones

Mae swyddfa Comisiynydd y Gymraeg wedi cadarnhau fod y sefydliad yn wynebu colli staff.

Fe gadarnhaodd swyddfa Efa Gruffudd Jones wrth Newyddion S4C fod "cynllun ymadael gwirfoddol" yn cael ei gynnig i aelodau staff ar hyn o bryd.

Daw hyn yn sgil toriad yng nghyllideb swyddfa'r comisiynydd iaith, meddai Ms Jones.

Mewn datganiad, dywedodd y comisiynydd wrth Newyddion S4C bod y broses eisoes wedi dechrau.

"Yn sgil toriad o 5% yn ein cyllideb eleni, wrth gynllunio ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf, mae unrhyw arbedion sydd angen eu gwneud yn golygu ystyried ein strwythur staffio.

"Rydym wedi cychwyn ar broses allai gynnwys sawl cam gan gynnwys cynnig cynllun ymadael gwirfoddol ac rydym yn ymgynghori gyda staff ac undebau wrth fynd drwy’r camau hynny.

"Fel sefydliad cyhoeddus rydym yn awyddus i wneud y defnydd gorau a mwyaf effeithiol o'r adnoddau sydd gennym.

"Dros y flwyddyn ddiwethaf fe wnaethom adnabod arbedion sylweddol drwy ail edrych ar gostau swyddfeydd ac adleoli er mwyn sicrhau na fyddai ein gwaith craidd yn cael ei effeithio wrth i gostau gynyddu."

Yn ôl adroddiad blynyddol 2022/23 Comisiynydd y Gymraeg, mae'r sefydliad yn cyflogi 41.6 o bobl cyfwerth y pen.

Miliwn o siaradwyr

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod wedi gwneud "y penderfyniad anodd" o leihau cyllidebau pob comisynydd gan 5%.

“Mae agenda cyni Llywodraeth y DU yn golygu bod yna bwysau sylweddol ar ein holl gyllidebau, ac rydyn ni wedi gorfod gwneud penderfyniadau anodd er mwyn amddiffyn y gwasanaethau cyhoeddus rheng flaen yr ydyn ni i gyd yn dibynnu arnyn nhw, fel y gwasanaeth iechyd, gwasanaethau gofal, ac ysgolion.

“Mae cyrraedd y nod o filiwn o siaradwyr Cymraeg a dyblu’r defnydd dyddiol o’r iaith yn darged yr ydym yn ei chymryd o ddifri, ac rydyn ni wedi gweithio’n galed i gyfyngu’r effaith ar y Gymraeg, gan gynnal y cyllid sydd ar gael i addysg statudol Gymraeg a’r blynyddoedd cynnar.

“Yn anffodus, oherwydd yr heriau ariannol, rydyn ni wedi gorfod gwneud y penderfyniad anodd o leihau cyllidebau pob comisiynydd 5%.

 “Mae’r comisiynwyr yn endidau annibynnol, a mater iddyn nhw yw pennu eu blaenoriaethau, rheoli eu cyllidebau, a gwneud penderfyniadau staffio.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.