Bachgen naw oed wedi marw o sepsis ddyddiau ar ôl cael ei ryddhau o'r ysbyty
Clywodd crwner fod bachgen naw oed o Gasnewydd wedi marw o sepsis ddyddiau ar ôl cael ei ryddhau o'r ysbyty gyda'r ffliw.
Fe gafodd Dylan Cope ei gludo i Ysbyty Athrofaol y Faenor yng Nghwmbran ar 6 Rhagfyr 2022.
Fe gafodd ei ryddhau o'r ysbyty y diwrnod canlynol ar ôl derbyn diagnosis o ffliw, ac fe roddwyd pamffled iddo gyda chyngor yn ymwneud â pheswch ac annwyd.
Bu farw ar 14 Rhagfyr o sepsis yn Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd.
Disgrifiodd ei rieni, Corrine a Laurence Cope, eu mab fel "bachgen ifanc ffit ac iach" a oedd yn mwynhau bywyd ac yn caru ei deulu.
Wrth agor y cwest ddydd Llun, dywedodd uwch grwner Gwent, Caroline Saunders fod y cwest yn cael ei gynnal i ganfod a ddylai llid y pendics (appendicitis) Dylan fod wedi cael ei ganfod yn gynt.
Wedi iddo ddechrau profi poen ofnadwy, fe aeth Dylan i'w feddyg teulu gyda'i rieni, a oedd yn amau ei fod yn dioddef o lid y pendics (appendicitis).
Fe gynghorodd y meddyg, Dr Amy Burton, iddynt fynd yn syth i Ysbyty'r Faenor.
Tra'r oedd yno, fe gafodd Dylan ei weld gan Samantha Hayden, nyrs o Fwrdd Iechyd Aneurin Bevan.
Clywodd y cwest er bod Ms Hayden yn ymwybodol fod meddyg teulu Dylan wedi ei weld, ni chafodd nodiadau a diagnosis Dr Burton eu pasio ymlaen.
Dywedodd Ms Hayden fod hyn yn arferol oherwydd nad oedd hi eisiau arwain gydag archwiliad y meddyg teulu yn unig, gan ei bod hi hefyd eisiau ei archwilio.
Disgrifiodd y diwrnod yna hefyd yn un "hynod o brysur".
Dywedodd y crwner ei bod yn "bryderus" yn sgil elfennau o ddatganiad Ms Hayden i'r cwest.
Clywodd y llys fod y bwrdd iechyd eisoes wedi gwneud newidiadau i'w harferion.
Mae'r cwest yn parhau.