Newyddion S4C

Rob McElhenney yn canmol heddlu Wrecsam wedi gêm elusennol

20/05/2024
Heddlu Wrecsam

Mae cyd berchennog Clwb Pêl-droed Wrecsam wedi diolch i dîm o swyddogion yr heddlu am drefnu gêm bêl-droed er mwyn codi arian ar gyfer ysbytai plant yn Philadelphia a Vancouver.

Cafodd y gêm ei chynnal ym Mrychdyn, Sir y Fflint brynhawn Sul rhwng Clwb Pêl-droed Heddlu Wrecsam sy'n chwarae yn eu hamser hamdden, a grŵp Happy Somedays, sydd wedi ei leoli yn ne Manceinion.  

Dywedodd tîm yr heddlu o Wrecsam eu bod eisiau "rhoi rhywbeth yn ôl " i'r actorion Rob McElhenney a Ryan Reynolds gan ychwanegu bod y ddau wedi cefnogi Wrecsam yn "sylweddol.". 

Yn sgil hynny, fe aethon nhw ati i godi arian ar gyfer Ysbyty Plant British Columbia ac Ysbyty Plant Philadelphia gan bod Reynolds wedi ei eni yn Vancouver a McElhenney yn dod o Philadelphia.

Hyd yn hyn, mae £334 wedi ei godi a fydd yn cael ei rannu rhwng y ddau ysbyty.  

Dywedodd y Rhingyll Dave Smith, 38, o Glwb Pêl-droed Heddlu Wrecsam: “Mae cyfraniad Ryan a Rob wedi cael effaith sylweddol ar ardal Wrecsam, sydd wedi gwneud gwahaniaeth i fywydau bobl.  

“Ry'n ni hefyd wedi cael llawer o gefnogaeth o'r Unol Daleithiau a Canada oherwydd y modd y mae Ryan a Rob wedi ein cefnogi ni, felly roeddem yn meddwl y byddai'n beth da i godi arian ar gyfer yr ysbytai yn Philadelphia a Vancouver.”

Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae perchnogion enwog Clwb Pêl-droed Wrecsam wedi cyfrannu bron £20,000 tuag at achosion da sydd naill ai wedi eu sefydlu neu eu hyrwyddo gan Glwb Pêl-droed Heddlu Wrecsam. 

'Caru hyn, diolch' 

Cyn y gêm elusennol brynhawn Sul, fe ysgrifennodd Rob McElhenney ar ei gyfrif X: “Caru hyn, diolch.”

Dywedodd y Rhingyll Smith nad oedd e wedi disgwyl neges gan y seren Hollywood.  

“Does dim rhaid i McElhenney a Reynolds ein cefnogi ni, ond mae'r ffaith eu bod nhw yn gwneud hynny, yn profi bod ardal Wrecsam yn golygu llawer iddyn nhw, a'u bod wir eisiau helpu'r gymuned." 

Clwb Pêl-droed Heddlu Wrecsam oedd yn fuddugol yn y gêm elusennol, ond dywedodd y Rhingyll Smith fod y sgor yn "amherthnasol."

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.