Newyddion S4C

Beirniadaeth o Vaughan Gething ‘ddim byd i’w wneud â hiliaeth’

19/05/2024
Andrew RT Davies

Mae arweinydd yr wrthblaid yn y Senedd wedi dweud nad yw’r feirniadaeth o Vaughan Gething “ddim byd i’w wneud â hiliaeth”.

Prif Weinidog Cymru yw’r arweinydd cenedlaethol du cyntaf yn Ewrop ac mae rhai o’i gefnogwyr wedi awgrymu ei fod yn wynebu beirniadaeth ychwanegol o’r herwydd.

Mewn datganiad ddydd Sadwrn dywedodd Mahaboob Basha, Cadeirydd pwyllgor du, asiaidd a lleiafrifoedd ethnig Llafur Cymru bod elfen o hiliaeth ynghlwm a’r feirniadaeth.

“I gynifer o bobl o gefndiroedd du, asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yng Nghymru bydd yr wythnosau diwethaf wedi bod yn annifyr, cythryblus ac eto'n gyfarwydd iawn,” meddai’r datganiad.

“Yn y cyfryngau Cymreig mae’r ymdriniaeth y mae Vaughan Gething wedi ei wynebu wedi mynd ymhell y tu hwnt i'r hyn y gellir yn rhesymol ei alw'n graffu teg.”

'Dim i'w wneud â hil'

Ond wrth siarad ar raglen Politics Wales dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies, nad oedd sail i’r honiadau.

Dywedodd bod y feirniadaeth yn deillio yn uniongyrchol o weithredoedd Vaughan Gething.

Yn ystod ras arweinyddol y Blaid Lafur, fe ddaeth i’r amlwg bod ei ymgyrch wedi derbyn rhodd o £200,000 gan y Dauson Environmental Group, meddai.

Mae cyfarwyddwr y grŵp eisoes wedi cael ei ddyfarnu’n euog ddwywaith am droseddau amgylcheddol.

Mae’r Prif Weinidog hefyd wedi gwadu camarwain yr Ymchwiliad Covid-19 ar ôl i neges ffôn ymddangos yn y cyfryngau oedd yn bwrw amheuon ar ei honiad nad oedd wedi dileu negeseuon yn fwriadol yn ystod y pandemig.

Ddydd Iau fe benderfynodd ddiswyddo'r Gweinidog Partneriaeth Gymdeithasol, Hannah Blythyn, ddweud ei bod hi wedi rhyddhau gwybodaeth i’r wasg. Mae hi’n gwadu’r honiad.

Dywedodd Andrew RT Davies wrth raglen Politics Wales mai’r tri mater hwnnw oedd yn gyfrifol am y cwestiynau am arweinyddiaeth Vaughan Gething.

“Nid yw hynny'n ddim i'w wneud â hil,” meddai. 

“Ac os yw pobl eisiau edrych ar sylwadau, rydw i wedi bod yn y swydd hon gryn amser, a dylai newyddiadurwyr edrych ar sylwadau maen nhw wedi eu gwneud amdana i.

“Mae'n rhan annatod o’r sgarmes wleidyddol. 

“Ac rwy'n meddwl ei bod yn ergyd eithaf isel i'r Blaid Lafur ddefnyddio'r linell honno, pan fo achosion gwirioneddol o hiliaeth ar gael y mae angen mynd i'r afael â nhw, a dylid mynd i'r afael â nhw yn uniongyrchol.

“Mae hyn yn ymwneud â’r hyder sydd gan bobl yn y Prif Weinidog a’i grebwyll. 

“Nid yw'n ymwneud â llywodraeth Lafur Cymru. Mae'n ymwneud â'r Prif Weinidog a hyder a dyna'r cwestiwn y mae angen ei ateb.”

‘Craffu ychwanegol’

Ond fe awgrymodd yr ysgrifennydd amaeth Huw Irranca-Davies bod angen cymryd datganiad pwyllgor du, asiaidd a lleiafrifoedd ethnig Llafur Cymru i ystyriaeth.

“Y cwestiwn yw, a oes yna graffu ychwanegol wedi bod ar Vaughan,” meddai wrth raglen Sunday Supplement.

“Rydw i wedi gweld y datganiad hwnnw gan y pwyllgor Llafur o leiafrifoedd ethnig du ac asiaidd. Mae'n siarad drosto'i hun. 

“Byddwn yn dweud wrth bobl fynd i ddarllen hwnnw'n fanwl, oherwydd mae'n ei roi'n dda iawn, iawn, rwy'n meddwl.

“Ac mae'n dweud o fewn hynny, y dylem fod yn hynod falch bod gennym ni Brif Weinidog du yn y wlad hon a’i fod yn adlewyrchu'r amrywiaeth sydd gyda ni.

“Ond mae'n mynd ymlaen i ddweud ar y diwedd bod angen i ni sefyll yn gadarn y tu ôl i Vaughan Gethin a galw ar bawb i fod yn gynghreiriaid, ac rwy’n meddwl bod rhywbeth yn hynny.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.