Bocsio: Oleksandr Usyk yn bencampwr y byd ar ôl trechu Tyson Fury
Mae Oleksandr Usyk wedi cael ei enwi’n bencampwr y byd yn y categori pwysau trwm ar ôl buddugoliaeth yn erbyn un o gewri’r byd bocsio, Tyson Fury.
Fe enillodd Usyk, 37 oed o Wcráin, y teitl ar benderfyniad wedi'i rannu wedi’r ornest ym mhrifddinas Saudi Arabia, Riyadh.
Mae’r fuddugoliaeth yn golygu mai Usyk yw’r bocsiwr cyntaf i feddiannu pedwar gwregys categori pwysau trwm ar yr un pryd, gan olygu mai yntau’n hefyd yw'r pencampwr diamheuol cyntaf mewn 24 mlynedd.
Roedd gan Usyk sgôr o 115-112 a 114-113 ar ddau gerdyn, tra oedd gan Fury sgôr o 114-113 ar y llall.
Mae Tyson Fury wedi gwadu mai Usyk oedd enillydd yr ornest, gan honni bod y beirniaid wedi penderfynu o'i blaid am ei fod o Wcráin.
“Mae ei wlad e’n rhyfela, felly mae pobl yn ochri gyda’r wlad sy’n rhyfela," meddai.
“Does ‘na ddim amheuaeth, fi enillodd y frwydr yna."
Mewn ymateb, dywedodd Usyk ei fod yn barod am ail ornest ond ychwanegodd yn ddiweddarach ei fod eisiau “gorffwys".
Cyn y gêm nos Sadwrn, roedd Tyson Fury yn pwyso 262lb - bron i dair stôn yn drymach nag Usyk. Roedd y bocsiwr o Wcráin ar ei drymaf erioed yn pwyso 223lb.
Llun: Wochit