Dim Eisteddfod Genedlaethol yn Sir Fynwy yn 2026
Mae Cyngor Sir Fynwy wedi dweud eu bod nhw wedi methu yn eu cais i ddenu'r Eisteddfod Genedlaethol i'r sir yn 2026 – ond mae’n bosib y byddai’n cynnal Eisteddfod yr Urdd yn ei le.
Cadarnhaodd Cyngor Sir Fynwy wrth Newyddion S4C y llynedd eu bod nhw wedi gwneud cais yn mynegi diddordeb mewn cynnal y brifwyl yn 2026, sef degawd ers iddi gael ei chynnal yno ar faes Y Fenni yn 2016.
Fe ddywedon nhw ar y pryd mai eu nod oedd hybu’r iaith a’r diwylliant mewn ardal lle “nad oes llawer o siaradwyr Cymraeg.”
Ond wrth siarad yng nghyfarfod y Cyngor Sir dywedodd yr Aelod Cabinet dros Gydraddoldeb ac Ymgysylltu na fyddai’r Eisteddfod Genedlaethol yn cael ei chynnal yno nes y 2030au.
Dywedodd Angela Sandles o’r blaid Lafur: “Yn anffodus nid ydym wedi llwyddo gydag ein cais yn mynegi diddordeb mewn cynnal yr Eisteddfod yn ystod y cyfnod presennol hyd at 2030.
“Ond y newyddion da yw ein bod wedi cael gwybod bod posibilrwydd cryf y gallwn gynnal Eisteddfod yr Urdd yn ystod y degawd nesaf,” meddai.
Dywedodd yr aelod Ceidwadol dros Llanfoist a Gofilion, Tomos Davies, ei fod “yn amlwg yn siomedig” na fyddai Sir Fynwy yn cael cynnal yr Eisteddfod Genedlaethol 2026.
Ond ychwanegodd ei fod yn “galonogol” fod potensial i Eisteddfod yr Urdd gael ei chynnal yno yn y dyfodol.
Dywedodd y Cynghorydd Sandles y byddai’n “ffantastig” pe bai i’r sir llwyddo gyda chais ar gyfer 2031.
Bydd yr Eisteddfod Genedlaethol eleni yn cael ei chynnal ym Mhontypridd cyn teithio i Wrecsam yn 2025.
Mae’r brifwyl yn cael ei chynnal bob blwyddyn mewn ardal i’r de neu’r gogledd o ble y cafodd ei chynnal y flwyddyn flaenorol, ac fe fydd yn dychwelyd i’r de yn 2026.