Newyddion S4C

Gwyliau sgïo yn Ffrainc yn wobr wrth i Cwis Bob Dydd ddychwelyd

17/05/2024
Cwis bob dydd

Gwyliau sgïo yn Ffrainc fydd y brif wobr wrth i gystadleuaeth Cwis Bob Dydd ddychwelyd am dymor arall.

Bydd tymor newydd yr appgwis gan S4C a fydd yn rhedeg am 20 wythnos o fis Mai i fis Hydref yn dechrau ddydd Llun, 20 Mai.

Bydd yr enillydd yn derbyn y brif wobr, sef gwyliau i bedwar o bobl mewn chalet sgïo “moethus” yn Méribel yn Ffrainc.

Dyma bedwerydd tymor y cwis sydd wedi ei chwarae gan dros 20,000 o bobl yn ôl y trefnwyr.

Dywedodd Ameer Davies-Rana, un o gyflwynwyr y cwis fod yna “ystod eang o gwestiynau yn y cwis fydd yn siŵr o herio pawb”.

“Bydd 'na gwestiynau cwis traddodiadol, ychydig o trivia, a chwestiynau am ddiwylliant Cymru.”

Nod y cwis yw ateb deg cwestiwn y dydd i gyd yn gywir, mor gyflym â phosib, er mwyn cyrraedd brig y sgorfwrdd.

Dywedodd Megan Llŷn, un arall o gyflwynwyr y cwis y bydd yn gyfle i “chwarae yn erbyn eich ffrindiau, eich cydweithwyr, eich partner, eich teulu a Chymru gyfan”.

“Pwy a ŵyr, efallai mai chi fydd yn ennill y brif wobr sef gwyliau arbennig i bedwar yn Meribel, Ffrainc,” meddai.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.