Y Prif Weinidog yn penodi aelod newydd i’w gabinet ar ôl diswyddo Hannah Blythyn
Mae’r Prif Weinidog wedi penodi aelod newydd i’w gabinet ddydd Gwener ar ôl diswyddo Hannah Blythyn.
Dywedodd Vaughan Gething ei fod wedi penodi Sarah Murphy, yr Aelod o Senedd Cymru dros Ben-y-bont ar Ogwr, yn Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol.
Roedd hi wedi cefnogi Jeremy Miles yn ystod ras awenyddol y Blaid Lafur.
Daw hyn wedi i Vaughan Gething ddweud ddydd Iau ei fod wedi gofyn i Hannah Blythyn, , yr Aelod o Senedd Cymru dros etholaeth Delyn, i adael y llywodraeth “ar ôl adolygu’r dystiolaeth sydd ar gael i mi ynghylch y datgeliad diweddar o gyfathrebu i’r cyfryngau”.
Mewn datganiad dywedodd Hannah Blythyn ei bod hi wedi ei “syfrdanu” a’i “thristau'n fawr” gan y penderfyniad hwnnw.
Gwadodd rannu gwybodaeth â’r wasg gan ddweud mai “uniondeb (integrity) yw popeth mewn gwleidyddiaeth ac rydw i wedi cadw gafael arno”.
Mewn datganiad dydd Gwener dywedodd Vaughan Gething: "Mae’n bleser gennyf gyhoeddi penodiad Sarah Murphy yn Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol.
“Bydd Sarah yn bwrw ymlaen â’n gwaith parhaus gyda’n partneriaid cymdeithasol gwerthfawr, yn ogystal â darparu arweinyddiaeth ar gyfer ein sectorau creadigol, lletygarwch, twristiaeth a manwerthu.
“Croesawaf Sarah yn gynnes i’m tîm Cabinet talentog ac uchelgeisiol.”
Mewn datganiad fore dydd Iau, roedd wedi dweud: “Ar ôl adolygu’r dystiolaeth sydd ar gael i mi ynghylch y datgeliad diweddar o gyfathrebu i’r cyfryngau, yn anffodus rwyf wedi dod i’r casgliad nad oes gennyf ddewis arall ond gofyn i Hannah Blythyn adael y Llywodraeth.
"Hoffwn gofnodi fy niolch am y gwaith y mae’r Aelod dros Delyn wedi’i arwain yn y Llywodraeth ers 2017, yn fwyaf nodedig ei harweinyddiaeth ar Gynllun Gweithredu LGBTQ+ Cymru, yr adolygiad o’r gwasanaethau tân ac achub, a’n gwaith gwerthfawr gyda phartneriaid cymdeithasol."
Mewn wrth ymateb dywedodd Hannah Blythyn ei bod hi wedi ei “syfrdanu” a’i “thristau'n fawr” gan y penderfyniad.
“Rwy'n glir ac wedi bod yn glir na wnes i, ac nid wyf erioed wedi rhannu dim," meddai.
“Uniondeb yw popeth mewn gwleidyddiaeth ac rydw i wedi cadw gafael arno.
“Mae’n fraint aruthrol i blentyn o Gei Connah wasanaethu’r gymuned a’m lluniodd, heb sôn am fod wedi gwasanaethu yn llywodraeth fy ngwlad.