Nain a taid bachgen dwy oed o'r gogledd yn gwadu ei lofruddio
Mae nain a taid i fachgen dwy oed o Sir y Fflint wedi gwadu ei lofruddio.
Ymddangosodd Kerry Ives, 45, a Michael Ives, 46, yn Llys y Goron yr Wyddgrug drwy gyswllt fideo o garchardai gwahanol ddydd Gwener, wedi’u cyhuddo o lofruddio Ethan Ives Griffiths ar 16 Awst 2021.
Siaradodd y cwpl, o Garden City, Sir y Fflint, i gadarnhau eu henwau ac i bledio'n ddieuog i lofruddiaeth, achosi neu ganiatáu marwolaeth plentyn a chreulondeb i berson o dan 16 oed.
Ymddangosodd mam Ethan, Shannon Ives, 27, o’r Wyddgrug, yn y doc gan wadu achosi neu ganiatáu marwolaeth plentyn a chreulondeb i berson o dan 16 oed.
Mae’r cyhuddiadau’n honni bod creulondeb wedi digwydd o 8 Mehefin 2021 hyd at farwolaeth y plentyn ddeufis yn ddiweddarach.
Dywedodd y Barnwr Rhys Rowlands y byddai achos llys, y disgwylir iddo bara pedair i bum wythnos, yn cael ei gynnal ar 11 Tachwedd.
Cafodd Kerry a Michael Ives eu cadw yn y ddalfa ac fe gafodd Shannon Ives ei rhyddhau ar fechnïaeth.
Llun teulu