Newyddion S4C

Croesawu newidiadau ‘ar unwaith’ i bolisïau lladd gwartheg wedi profion TB

Croesawu newidiadau ‘ar unwaith’ i bolisïau lladd gwartheg wedi profion TB

Mae undebau wedi croesawu newidiadau “ar unwaith” i’r polisïau ar ladd gwartheg sydd yn adweithio i brofion TB.

Mae Gweinidog Amaeth Cymru wedi cadarnhau y bydd ffermwyr yn gallu dewis gohirio difa buwch neu heffer sy'n drwm feichiog tan ar ôl lloia.

Fe fydd yna hefyd rywfaint o hyblygrwydd wrth ohirio symud gwartheg sy’n ymateb i brawf TB sydd yn agos iawn at ddiwedd cyfnod cadw meddyginiaeth o'r gadwyn fwyd.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Materion Gwledig Huw Irranca-Davies ei fod “wedi gweld y trallod y mae TB yn ei achosi i deuluoedd a busnesau ffermio”.

Dywedodd Llywodraeth Cymru bod y newidiadau yn deillio o argymhellion Grŵp Cynghori Technegol (TAG) ar TB Gwartheg sy’n cynnwys undebau ffermio.

Cynhaliwyd cyfarfod cyntaf TAG ar 17 Ebrill, a'r flaenoriaeth oedd trafod y polisi ar ladd gwartheg ar y fferm sydd wedi cael adwaith i brawf TB.

Mae Huw Irranca-Davies wedi derbyn argymhellion y Grŵp yn llawn, meddai. 

"Gall lladd gwartheg ar y fferm achosi diflastod ofnadwy i'r rheini sy'n ei weld yn digwydd a chael effaith niweidiol ar les ac iechyd meddwl ffermwyr a gweithwyr fferm,” meddai.

"Ei effaith ar ffermwyr, eu teuluoedd a'u busnesau sydd flaenaf ar fy meddwl.

"Hoffwn ddiolch i TAG am weithio'n gyflym i gyflwyno'r argymhellion hyn ar bwnc mor sensitif. Gallwn nawr ddechrau ystyried sut i wneud newidiadau cadarnhaol i'r rhaglen TB.

"Allwn ni ddim cael gwared ar TB ar ein pennau ein hunain. Mae gweithio mewn partneriaeth â ffermwyr a milfeddygon yn hanfodol er mwyn cyrraedd y nod cyffredin o Gymru heb TB."

‘Trallod’

Dywedodd cadeirydd grŵp TB undeb NFU Cymru, Roger Lewis, eu bod nhw’n croesawu'r newid.

“Mae lladd adweithyddion TB ar y fferm yn achosi trallod di-ri i deuluoedd ffermio ledled Cymru ac ni ellir diystyru’r effaith emosiynol ar y rhai dan sylw,” meddai.

“Mae’n newyddion i’w groesawu felly fod Ysgrifennydd y Cabinet wedi gwrando ar ein pryderon ac wedi derbyn yr argymhellion gan y TAG TB Buchol i wneud newidiadau i’r polisi hwn.

“Yn y tymor byr, rydym yn falch o weld Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno y dylai ffermwyr gael y dewis i oedi, yn amodol ar fodloni amodau bioddiogelwch, cyn lladd anifeiliaid beichiog iawn tan ar ôl iddynt loia. 

“Mae’r adborth a gawn gan aelodau ar hyd a lled Cymru yn cadarnhau’n unfrydol mai lladd yr anifeiliaid hyn ar y fferm sy’n achosi’r trallod mwyaf. 

“Mae lleihau nifer yr anifeiliaid sy’n adweithio sy’n cael eu lladd ar y fferm oherwydd eu bod o fewn cyfnod atal cyffuriau yn faes y mae Grŵp Ffocws TB NFU Cymru yn credu y gallwn wneud cynnydd gwirioneddol arno.

“Credwn ei fod yn benderfyniad synhwyrol gan Ysgrifennydd y Cabinet i ganiatáu’r hyblygrwydd y gall ffermwr, mewn ymgynghoriad â’i filfeddyg preifat a milfeddyg achos APHA [Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion], ohirio symud adweithydd mewn achosion lle mae anifeiliaid yn agos iawn at ddiwedd y cyfnod cilio.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.