Prifysgol Aberystwyth i gynnig cyrsiau nyrsio o 2022
Bydd modd astudio cyrsiau nyrsio ym Mhrifysgol Aberystwyth o fis Medi 2022, ac fe all myfyrwyr dderbyn hyd at hanner eu haddysg trwy gyfrwng y Gymraeg.
Mae’r brifysgol wedi derbyn cytundeb 10 mlynedd gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru.
Bydd cyrsiau hyfforddi nyrsys oedolion ac iechyd meddwl ar gael yn y brifysgol fel rhan o'r cytundeb.
‘Buddiol o ran recriwtio’
Mae Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth Yr Athro Elizabeth Treasure wedi disgrifio’r cyhoeddiad fel un “cyffrous”.
“Mae cefnogi anghenion cymunedol, mewn cydweithrediad agos â’n partneriaid, yn ganolog i’n cenhadaeth sifig; a bydd sefydlu addysg nyrsio yma yn rhan bwysig o hynny,” meddai.
“Bydd yn fuddiol o ran recriwtio a chadw nyrsys, yn ogystal â bod â’r potensial i ysbrydoli modelau newydd o ddarparu gofal iechyd a fydd o fudd i bawb.
“Bydd ein cynlluniau hefyd yn gwneud cyfraniad pwysig at wella darpariaeth iechyd meddwl a chyfrwng Cymraeg yn lleol a thu hwnt.”
Cafodd y cyrsiau eu sefydlu mewn cydweithrediad gyda byrddau iechyd Hywel Dda, Betsi Cadwaladr a Phowys.
Bydd modd gwneud cais am le ar y cyrsiau o fis Hydref 2021.
Llun: S4C