Newyddion S4C

Pobl leol Machynlleth yn galw am ailagor y tai bach cyhoeddus

16/05/2024

Pobl leol Machynlleth yn galw am ailagor y tai bach cyhoeddus

Mae'n anghyfleus bod neb wedi cael defnyddio'r cyfleusterau hyn ers dros flwyddyn. Ar ôl colli miloedd o bunnau ar eu cynnal rhoddodd Cyngor Tref Machynlleth allweddi'r toilet nôl i Gyngor Powys.

Nawr mae gweithgor wedi ffurfio i geisio am grant o £60,000 i dalu am adnewyddu ac ailagor y tŷ bach. Maen nhw 'di lansio arolwg yn gofyn am gefnogaeth pobl leol i'r cais.

"Mae ymateb da yn fuan ac mae 500 wedi ymateb. Oedd 87% yn deud bod hi'n bwysig cael y toiledau yma. Mae pobl yn siarad wrtha i fel cynghorydd bod y toiledau ar gau.

"Falle bod y dre'n colli pobl busnes. Os ydy pobl yn pasio heb doiledau, maen nhw'n mynd i rywle arall."

Mae'r llyfrgell a'r siop sglodion leol wedi caniatau i bobl ddefnyddio eu toiledau nhw ers i'r tŷ bach cyhoeddus gau. Tra bod y llyfrgell wedi croesawu ymwelwyr newydd i'r busnes, roedd trafferth o dro i dro.

"Talu £2 yn y car park i barcio'r car a dim toilet. Rhedeg rownd y gornel i'r siop chips a jyst defnyddio'r toilet. Mwy o giw i'r toiled na sydd 'na i'r tecawe."

"Mae mwy o bobl wedi dod i'r llyfrgell i ddefnyddio tŷ bach. 'Dan ni'm yn agor bob dydd trwy'r dydd."

Fel prifddinas hynafol Cymru mae Machynlleth yn denu ymwelwyr. Hefyd oherwydd ei leoliad yn y canolbarth mae'n fan aros ar daith o'r de i'r gogledd. Ar ganol taith hir mae diffyg cyfleusterau'n broblem.

"Mae'n sefyllfa sy'n digwydd ymhob man. Pan chi'n teithio ar yr heol tipyn mae'n ofid. Chi'n ofn yfed dŵr achos chi ofn bydd rhaid mynd."

"Mae'n broblem fawr i'r dref, mae ymwelwyr yn dod a nunlle i fynd. I ni bobl lleol, 'dan ni'n gwybod am ambell i le sy'n fodlon. I ymwelwyr a pobl sy'n dod am y diwrnod, mae o'n broblem fawr."

"Chi'n dod mas o'r car park a does unman i fynd i toiled fel 'na."

Cyn rhoi'r allweddi nôl i Gyngor Powys llynedd roedd Cyngor Tref Machynlleth yn gyfrifol am y toiled am 10 mlynedd.

Dyw'r cyngor sir heb wneud sylw. Nawr mae pobl leol yn gobeithio ateb y galw mawr am ailagor y tai bach.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.