Newyddion S4C

Llawdriniaeth Prif Weinidog Slofacia wedi 'mynd yn dda' ar ôl cael ei saethu

16/05/2024
Saethu prif weinidog Slofacia

Nid yw Prif Weinidog Slofacia Robert Fico bellach mewn cyflwr sy’n bygwth bywyd ar ôl cael ei saethu sawl gwaith ddydd Mercher, meddai dirprwy brif weinidog y wlad.

Dywedodd Tomas Taraba wrth y BBC bod llawdriniaeth Mr Fico wedi mynd yn "dda" a "dwi'n meddwl y bydd yn goroesi yn y diwedd".

Yn gynharach ddydd Mercher dywedodd y Gweinidog Amddiffyn, Robert Kalinak fod Mr Fico yn "brwydro am ei fywyd" ar ôl cael ei anafu'n ddifrifol mewn ymosodiad yn nhref fechan Handlova yng ngorllewin Slofacia

Cafodd person a ddrwgdybir sy'n gyfrifol ei gadw yn lleoliad y digwyddiad.

Yn dilyn y saethu, cafodd y prif weinidog ei ruthro i'r ysbyty a threuliodd sawl awr yn derbyn llawdriniaeth wrth iddo "ymladd am ei fywyd", yn ôl y gweinidog amddiffyn a siaradodd mewn cynhadledd newyddion tu allan i'r ysbyty lle'r oedd Mr Fico yn cael ei drin ddydd Mercher.

Does dim diweddariad swyddogol wedi bod ar gyflwr y prif weinidog ers hynny, ond mae'r dirprwy brif weinidog wedi dweud wrth y BBC nad oedd Mr Fico "mewn sefyllfa lle mae ei fywyd yn y fantol ar hyn o bryd".

“Hyd y gwn i, aeth y llawdriniaeth yn dda ac rwy’n meddwl y bydd yn goroesi yn y diwedd,” meddai Mr Taraba.

Ychwanegodd fod y prif weinidog wedi ei saethu "o bellter agos iawn" a bod "un fwled wedi mynd trwy'r stumog a'r ail yn taro'r cymal".

Nid yw'r heddlu wedi datgan enw'r unigolyn y maen nhw'n credu sydd yn gyfrifol.

Mae adroddiadau heb eu cadarnhau yn y cyfryngau lleol yn dweud ei fod yn awdur ac yn actifydd gwleidyddol 71 oed.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.