Newyddion S4C

‘Siom’ wedi penderfynu oedi diwygio treth cyngor yng Nghymru nes 2028

Cyfartaledd prisiau tai dros £200,000

Mae economegydd wedi dweud ei fod yn “siomedig” gyda’r cyhoeddiad na fydd trethi cyngor yng Nghymru bellach yn cael eu diwygio nes 2028.

Roedd Llywodraeth Cymru wedi bod yn ystyried diwygiadau a allai fod wedi newid bandiau treth cyngor cartrefi am y tro cyntaf ers 20 mlynedd, fel rhan o’u cytundeb cydweithio gyda Phlaid Cymru.

Y bwriad yn wreiddiol oedd eu cyflwyno y flwyddyn nesaf ond fe gyhoeddodd yr ysgrifennydd cyllid ddydd Mercher na fyddan nhw bellach yn digwydd nes ar ôl etholiad nesaf Senedd Cymru yn 2026.

Dywedodd Stuart Adam o'r sefydliad astudiaethau cyllidol (IFS) ei bod yn “hen bryd ailbrisio - nid oes unrhyw fudd o oedi”.

"Mae'n siomedig bod Llywodraeth Cymru wedi penderfynu bwrw ymlaen â diwygio’r dreth gyngor yn 2028, nid 2025 fel y cynlluniwyd yn wreiddiol," meddai.

“Mae sicrhau bod ailbrisio yn digwydd, ac yn digwydd yn rheolaidd yn y dyfodol, yn bwysicach nag a yw’n 2025 neu’n 2028. 

“Y cwestiwn nawr yw a fydd yn mynd yn ei flaen mewn gwirionedd yn 2028 neu a yw hyn yn rhagarweiniad i oedi neu ganslo pellach.”

‘Llwybr clir’

Dywedodd Rebecca Evans, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, bod ymgynghoriad wedi awgrymu bod pobl Cymru eisiau gweld rywfaint o oedi.

“Ar ôl ystyried yn ofalus yr ymatebion i'r ymgynghoriad a'r sgwrs gyhoeddus ehangach, rwy'n bwriadu rhoi’r broses o ddiwygio'r dreth gyngor ar waith dros amserlen arafach, yn unol â barn y mwyafrif o'r rhai a ymatebodd i'n hymgynghoriad,” meddai.

“Rydym bellach yn bwriadu cyflwyno'r diwygiadau strwythurol i'r system dreth gyngor o 2028 ymlaen.

“Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo o hyd i'n nod o wneud y dreth gyngor yn decach a'i diweddaru. 

“Rydym eisoes wedi cyflawni llawer iawn tuag at y nod hwn ac rwy'n awyddus yn awr i amlinellu llwybr clir a phendant ar gyfer cyflawni gwelliannau pellach o 2028 ymlaen.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.