Newyddion S4C

Cyhoeddi rhestr fer Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2021

29/06/2021
Llyfr y Flwyddyn

Mae Llenyddiaeth Cymru wedi cyhoeddi'r 12 cyfrol sydd ar restr fer Gymraeg Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2021.

Mae'r wobr yn cael ei chyflwyno yn flynyddol i "dathlu llenorion talentog Cymreig" yn y Gymraeg a'r Saesneg.

Mae pedwar categori yn y ddwy iaith, sef Barddoniaeth, Ffuglen, Ffeithiol Greadigol a Plant a Phobl Ifanc.

Bydd enillwyr y gwobrau Cymraeg yn cael eu cyhoeddi rhwng 2-4 Awst, mewn cyfres o ddarllediadau ar BBC Radio Cymru.

Ar y rhestr fer eleni mae:

Gwobr Farddoniaeth

Dal i Fod, Elin ap Hywel (Cyhoeddiadau Barddas)

rhwng dwy lein drên, Llŷr Gwyn Lewis (Hunan Gyhoeddedig)

Mynd, Marged Tudur (Gwasg Carreg Gwalch)

Gwobr Ffuglen

Wal, Mari Emlyn (Y Lolfa)

Tu ôl i’r awyr, Megan Angharad Hunter (Y Lolfa)

Twll Bach yn y Niwl, Llio Elain Maddocks (Y Lolfa)

Gwobr Ffeithiol Greadigol

Ymbapuroli, Angharad Price (Gwasg Carreg Gwalch)

Darllen y Dychymyg: Creu Ystyron Newydd i Blant a Phlentyndod yn Llenyddiaeth y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg, Siwan M. Rosser (Gwasg Prifysgol Cymru)

O.M.: Cofiant Syr Owen Morgan Edwards, Hazel Walford Davies (Gwasg Gomer)

Gwobr Plant a Phobl Ifanc

Ble Mae Boc? Ar goll yn y chwedlau, Huw Aaron (Y Lolfa)

#Helynt, Rebecca Roberts (Gwasg Carreg Gwalch)

Y Castell Siwgr, Angharad Tomos (Gwasg Carreg Gwalch)

Beirniaid y gwobrau Cymraeg eleni yw’r bardd a’r awdur Guto Dafydd; yr awdur, cyflwynydd a chyn Fardd Plant Cymru, Anni Llŷn; yr awdur, academydd a’r darlithydd Tomos Owen; a’r comedïwr a’r awdur, Esyllt Sears.

Bydd cyfanswm o £14,000 yn cael ei rannu ymysg yr enillwyr, gydag enillydd pob categori’n derbyn gwobr o £1,000 a phrif enillwyr y wobr yn derbyn £3,000 yn ychwanegol.

Yn ogystal, bydd pob enillydd hefyd yn derbyn tlws Llyfr y Flwyddyn sydd wedi’i ddylunio gan yr artist a'r gof Angharad Pearce Jones.

Bydd Rhestr Fer y gwobrau Saesneg yn cael eu cyhoeddi nos Wener 2 Gorffennaf.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.