Cwmni o Seland Newydd eisiau adeiladu llinell sip, siglen awyr a chaffi ar fynydd yn Abertawe
Mae penaethiaid cwmni o Seland Newydd sydd eisiau adeiladu llinell sip, siglen awyr a chaffi ar fynydd yn Abertawe yn bwriadu denu cannoedd ar filoedd o bobl i'r ddinas.
Dywedodd penaethiaid Skyline Enterprises, sy’n anelu at adeiladu'r atyniad hamdden ar ben Mynydd Cilfái Abertawe eu bod am sicrhau bod manylion y datblygiad a fyddai'n werth miliynau o bunnoedd yn "gywir".
Pe bai cynlluniau'r cwmni yn mynd yn eu blaenau, bydd ymwelwyr yn gallu dringo i ben y bryn 193m o daldra mewn gondolâu sy'n gweithredu o'r ardal parcio a theithio yng Nglandŵr.
Ar y brig byddai myndiad at bump rhediad car llusg i lawr yr allt a llinell sip yn rhedeg ochr yn ochr â'r gondolas.
Fe fydd yna hefyd fwyty a siglen awyr yn edrych dros Fae Abertawe, meddai'r cwmni.
Dywedodd Danny Luke, rheolwr cyffredinol datblygiadau rhyngwladol Skyline Enterprises y byddai'r siglen awyr gyda'i chapsiwl pum person yn cyrraedd cyflymder o 50mya ac mae'n debyg mai hwn fyddai'r prif atyniad.
Mae tri uwch swyddog o Skyline Enterprises o Seland Newydd wedi bod yn cynnal cyfarfodydd yn ystod taith i ail ddinas Cymru – saith mlynedd ar ôl amlinellu eu cynlluniau am y tro cyntaf.
Maen nhw'n dweud bod newidiadau wedi eu gwneud yn dilyn adborth gan y cyhoedd, gan gynnwys ychwanegu maes chwarae antur newydd a dewis lleoliad arall i un o'r reidiau.
Dywedodd Mr Luke bod y cwmni wedi gwrando ar farn pobl.
"Fydd pawb byth yn hapus, ond os ydy 95% o’r bobl yn hapus, dyna sy’n bwysig i ni,” meddai.
Y nod yw y bydd yr atyniad yn agor yn 2027 ac yn denu tua 450,000 o bobl y flwyddyn.
'Pryderon'
Mae pryderon wedi'u mynegi am golli tir gwyrdd, effaith weledol a'r disgwyliad y bydd nifer o'r ymwelwyr â Glandŵr yn cyrraedd mewn car.
Dywedodd Mr Luke y byddai 122 o goed mawr yn cael eu plannu, ynghyd â 68,000 o goed llai, llwyni a phlanhigion eraill.
Ychwanegodd y byddai'r atyniad hamdden yn meddiannu 9% o Fynydd Cilfái gyda'r holl fynediad presennol yn cael eu cadw, ac eithrio, am resymau diogelwch, ardaloedd ar frig a gwaelod y reid gondola.
Ychwanegodd y byddai llwybrau cerdded presennol yn cael eu huwchraddio a 3km o rai newydd yn cael eu hychwanegu, ynghyd â dau lwybr beicio mynydd newydd.
Ynghyd â’r maes chwarae byddai mannau picnic, gan greu’r hyn a ddisgrifiodd Mr Luke fel “parc o fewn dinas”.
Amcangyfrifodd astudiaeth effaith economaidd gan Skyline Enterprises y byddai 100 o swyddi llawn amser yn cael eu creu yn y flwyddyn gyntaf o weithredu.
'Ariannu yn bwysig'
Bu anniddigrwydd hefyd ynghylch buddsoddiad yn y prosiect gan Lywodraeth Cymru a Chyngor Abertawe.
Mae Skyline wedi cymeradwyo cyllideb o 78 miliwn o ddoleri Seland Newydd – ychydig dros £37 miliwn ar gyfer y prosiect, ac mae sicrhau caniatâd cynllunio yn rhan allweddol.
Mae Llywodraeth Cymru wedi addo £4 miliwn, gydag amodau, a oedd, yn ôl Mr Luke, yn gymysgedd o grantiau a benthyciadau, tra bod y cyngor wedi cynnig cymorth gan gynnwys benthyciad o £4.1 miliwn – sydd hefyd yn amodol.
“Mae’r elfen ariannu, a’r gefnogaeth gan Lywodraeth Cymru a’r cyngor, yn bwysig,” meddai Mr Luke.
Ychwanegodd y byddai'r cwmni'n ceisio defnyddio cymaint o gontractwyr lleol â phosib pe bai'r prosiect yn cael y golau gwyrdd.