Lansio ymchwiliad llofruddiaeth wedi marwolaeth dyn 36 oed
Mae Heddlu Gwent wedi cadarnhau fod ymchwiliad llofruddiaeth wedi ei lansio yn dilyn marwolaeth dyn 36 oed a gafodd ei ganfod ar stryd yng Nghasnewydd.
Cafodd yr heddlu eu galw i Ffordd Casgwent tua 18.00 ddydd Mawrth. Cadarnhaodd swyddogion ambiwlans fod y dyn wedi marw yn y fan a’r lle.
Dywedodd yr heddlu fod teulu’r dyn wedi cael gwybod am ei farwolaeth a’u bod yn cael eu cefnogi gan swyddogion arbenigol wrth i ymchwiliad llofruddiaeth cael ei gynnal.
Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Virginia Davies: “Wrth i ni barhau i gynnal ein hymchwiliad, rydym yn annog aelodau’r cyhoedd i beidio dyfalu neu rannu gwybodaeth ar-lein gall achosi niwed i deulu’r dyn, neu fygwth ein hymchwiliad.
“Hoffem roi sicrwydd i gymunedau Casnewydd ein bod yn gwneud popeth o fewn ein gallu i ddatrys amgylchiadau ei farwolaeth.
“Mae ein meddyliau ni gyda theulu a ffrindiau’r dioddefwr,” meddai.
Mae’r llu hefyd yn apelio ar unrhyw un sydd gyda delweddau dashcam neu cylch cyfyng oddi ar Ffordd Casgwent, neu yn ardal Merriott Place rhwng 16.45 a 19.00 i gysylltu ar unwaith.
Mae Heddlu Gwent yn annog unrhyw un sydd gyda gwybodaeth pellach i gysylltu gan ddyfynu’r cyferinod 2400157385.
Llun: Google Maps