Newyddion S4C

ASau sy'n cael eu harestio am droseddau rhyw yn wynebu gwaharddiad

14/05/2024
Tŷ'r Cyffredin

Gallai Aelodau Seneddol sy'n cael eu harestio am droseddau rhyw neu dreisgar difrifol gael eu gwahardd rhag mynychu'r Senedd o dan gynlluniau newydd gafodd eu cymeradwyo ddydd Llun.

Daw'r cynlluniau er bod Llywodraeth y DU wedi cyflwyno cynnig a oedd yn argymell y dylai ASau gael eu gwahardd dim ond os ydynt yn cael eu cyhuddo.

Pleidleisiodd ASau 170 i 169 - gyda mwyafrif o un yn unig - o blaid arestio'r ASau.

Ar hyn o bryd, os yw AS yn cael ei gyhuddo o gamwedd rhywiol, does gan awdurdodau seneddol ddim pŵer i’w gwahardd. 

Mae achosion wedi bod lle mae ASau wedi aros i ffwrdd yn wirfoddol tra bod ymchwiliad yn cael ei gynnal.

Fe fuodd grŵp trawsbleidiol o uwch ASau yn gweithio ar gynllun i gyflwyno rheolau newydd.

Roedd yna gynnig i ddechrau y byddai asesiad risg yn cael ei gynnal. Yna byddai yna benderfyniad a ddylai AS gael ei atal rhag mynychu’r Senedd pe bai’n cael ei arestio ar amheuaeth o gyflawni achos treisgar neu drosedd rhywiol.

Yn lle hynny, cyflwynodd arweinydd Tŷ’r Cyffredin Penny Mordaunt gynllun yn canolbwyntio ar y rhai oedd wedi’u cyhuddo.

Dywedodd Llywodraeth y DU fod y polisi wedi cael ei ddiwygio yn dilyn adborth gan ASau, er mwyn cymryd i ystyriaeth yr "effaith andwyol y gall bod heb lais yn y Senedd ei chael ar gymunedau".

Byddai’r asesiad risg yn cael ei gynnal gan banel wedi'i benodi gan Lefarydd Tŷ’r Cyffredin, a fyddai’n penderfynu ar fesurau priodol.

Byddai unrhyw benderfyniad yn parhau’n gyfrinachol a gallai AS sydd wedi’i wahardd wneud cais am bleidlais ddirprwy o hyd, sy'n golygu y gallai AS arall fwrw pleidlais yn y Senedd ar eu rhan.

Dywedodd AS y Democratiaid Rhyddfrydol Wendy Chamberlain, a oedd wedi cynnig y gwelliant, y byddai hyn yn dod â'r Senedd i'r un lefel â gweithleoedd eraill.

"Fel cyn heddwas... dyw arestio ar amheuaeth ddim yn digwydd ar sail honiad yn unig," meddai wrth Dŷ'r Cyffredin.

"Ydy, mae rhai cwynion blinderus yn digwydd ond pa neges ydyn ni'n ei hanfon o'r lle hwn os ydyn ni'n dweud bod ein pryder am hyn mewn gwirionedd yn bwysicach na diogelu?"

Cafodd ei chynnig ei gefnogi gan ASau eraill yr wrthblaid, yn ogystal ag wyth Ceidwadwr, gan gynnwys y cyn-Brif Weinidog Theresa May, y Gweinidog Dioddefwyr a Diogelu Laura Farris, a chadeirydd y Pwyllgor Menywod a Chydraddoldeb Caroline Nokes.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.