Dim parc chwarae Mudiad Meithrin mewn eisteddfodau wrth iddyn nhw dorri'n ôl
Nid fydd Mudiad Meithrin yn darparu parc chwarae yn eisteddfodau’r Urdd a’r Genedlaethol eleni wrth iddyn nhw geisio arbed costau.
Bydd pabell llai ar y meysydd hefyd wrth i'r mudiad wynebu “blwyddyn heriol” yn sgil lleihad mewn nifer o grantiau sirol a chenedlaethol.
Maen nhw hefyd wedi penderfynu rhewi unrhyw swydd sy’n dod yn wag, medden nhw.
Dywedodd Dr Catrin Edwards, Cadeirydd Bwrdd Cyfarwyddwyr Mudiad Meithrin eu bod yn “lleihau ein presenoldeb yn y gwyliau cenedlaethol eleni”.
“Er enghraifft, ni fyddwn yn gallu cyfiawnhau mynd â pharc chwarae i Eisteddfod yr Urdd na’r Eisteddfod Genedlaethol a bydd ein stondin lawer llai o faint na’r arfer,” meddai'r mudiad.
“Wrth wneud hyn byddwn yn gwneud arbediad o dros £20,000 yn ein costau sydd gyfystyr â chost swydd.
“Serch hynny, bydd yr un croeso cynnes yn cael ei estyn i bob teulu wrth ymweld â ni yn y gwyliau hyn i gael blas ar weithgareddau amrywiol fydd yn rhan o arlwy’r stondin.”
‘Costau’n cynyddu’
Mae Mudiad Meithrin yn cynllunio ar gyfer gwneud colled yn y flwyddyn ariannol nesaf fydd o fewn ffiniau fydd yn dderbyniol i gyllidwyr a’r Comisiwn Elusennau, medden nhw.
Dywedodd Dr Gwenllian Lansdown Davies, Prif Weithredwr Mudiad Meithrin, bod y “flwyddyn nesaf am fod yn un heriol i’r Mudiad”.
“Gyda chostau’n cynyddu a grantiau’n lleihau, ry’n ni wedi bod yn rhewi swyddi ers sawl mis gan ddilyn canllawiau penodol i benderfynu a ydyn ni am lenwi’r swydd ai peidio,” meddai.
“Ein blaenoriaeth yw cynnal ein safonau a’n gwasanaethau ar lawr gwlad yn ein Cylchoedd Meithrin a meithrinfeydd dydd.”
Ychwanegodd Dr Gwenllian Lansdown Davies: “Wrth ragweld y cyfnod heriol yma o’n blaenau, ry’n ni wedi bod yn gweithio’n galed i ddenu grantiau o sawl ffynhonnell arall i wireddu prosiectau arbennig – un o’r rhain yw ein llwyddiant i ddenu grant o bron i £500,000 gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol.
“Mae’r prosiect wedi’n galluogi i benodi tri aelod o staff i wireddu prosiect tair blynedd i greu a chynnal sianel YouTube Dewin a Doti gan greu fideos amrywiol o wahanol Gylchoedd Meithrin a meithrinfeydd dydd ledled Cymru gan ddod â’r Gymraeg yn fyw i gartrefi’r plant.”