Cronfa Aled Roberts i helpu gweithwyr gofal i ddysgu Cymraeg
Mae nawdd o gronfa goffa cyn-Gomisiynydd y Gymraeg Aled Roberts yn cael ei ddefnyddio i helpu gweithwyr gofal lliniarol a gofal diwedd oes i ddysgu a defnyddio mwy o Gymraeg.
Yn dilyn marwolaeth Aled Roberts o ganser yn 2022, mae’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol ac elusen Macmillan wedi derbyn nawdd er cof amdano i greu pecyn o adnoddau Dysgu Cymraeg.
Bydd y pecyn yn cynnwys cwrs hunan-astudio byr, sy’n cyflwyno geiriau ac ymadroddion addas i weithwyr gofal lliniarol a gofal diwedd oes.
Bydd cwrs preswyl Dysgu Cymraeg hefyd yn rhan o'r adnoddau dysgu.
Dywedodd Llinos Roberts, gweddw Aled Roberts fod derbyn gofal yn y Gymraeg yn gymorth mawr wrth dderbyn triniaeth canser.
“Roedd Aled wedi dechrau ar y gwaith o drafod pwysigrwydd y Gymraeg gyda Macmillan yn rhinwedd ei swydd fel Comisiynydd y Gymraeg.
“Mi gawsom ni wedyn brofiad personol o bwysigrwydd y Gymraeg pan oedd Aled ei hun yn wael – iddo ef ac i minnau.
"Roeddem yn ymlacio mwy pan oedd nyrs neu ddoctor yn siarad Cymraeg, ac ychydig o straen yn cael ei dynnu o sefyllfa anodd.
“Felly roedd cynnig pecyn Dysgu Cymraeg fyddai’n galluogi mwy o weithwyr i siarad Cymraeg gyda chleifion ar ddiwedd eu hoes yn ddewis naturiol i ni."
'Geiriau o gysur'
Ychwanegodd Dona Lewis, Prif Weithredwr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol bod y cwrs wedi ei deilwra yn arbennig i'r gweithwyr gofal.
“Roedd y Gymraeg yn agos iawn at galon Aled ac fe fu’n ymgyrchu’n ddiwyd dros yr iaith – wrth ei waith ond hefyd yn ei ardal enedigol oedd mor bwysig iddo.
“Mae’r gronfa hon wedi ein galluogi ni i greu pecyn Dysgu Cymraeg, wedi ei deilwra yn arbennig ar gyfer gweithwyr gofal lliniarol a gofal diwedd oes, fel y gallan nhw gynnig geiriau o gysur i gleifion a’u teuluoedd ar amser anodd.
“Byddwn hefyd yn cynnig cwrs codi hyder preswyl, blynyddol yn Nant Gwrtheyrn – eto, wedi ei deilwra yn arbennig ar gyfer y maes gofal lliniarol a gofal diwedd oes.”
Bydd tlws yn cael ei roi hefyd, er cof am Aled Roberts, i berson sy’n gwirfoddoli yn y sector Dysgu Cymraeg.
Bydd yn cael ei gyflwyno mewn digwyddiad gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yng Nghaerdydd ddydd Mawrth.