Yr UDA’n beirniadu Israel am y defnydd o arfau America yn Gaza
Mae llywodraeth yr UDA wedi rhyddhau adroddiad sydd yn beirniadu defnydd Israel o arfau gafodd eu cyflenwi gan America yn y rhyfel yn Gaza.
Mewn adroddiad dywedodd ei fod yn “rhesymol i asesu” fod arfau gafodd eu cyflenwi gan America oedd yn “anghyson” gydag oblygiadau Israel a’u bod nhw o bosib wedi torri cyfreithiau rhyngwladol wrth wneud hynny.
Ond fe ychwanegodd yr adroddiad nad oedd ganddyn nhw wybodaeth gyflawn a byddai’r cyflenwadau o arfau yn medru parhau.
Cafodd yr adroddiad gan y Tŷ Gwyn ei gyflwyno i’r Gyngres ddydd Gwener er mwyn asesu sut oedd gwledydd oedd wedi derbyn arfau gan America wedi eu defnyddio.
Fe nododd yr adroddiad hefyd fod Hamas yn “defnyddio isadeiledd sifil ar gyfer rhesymau milwrol gan ddefnyddio pobl gyffredin fel tarianau dynol” ac roedd yn aml yn “anodd i benderfynu ffeithiau ar y llawr mewn ardaloedd o ryfel”.
Bore dydd Sadwrn fe wnaeth Israel rybuddio pobl yn ninas Raffah, yn ne Palestina i ffoi. Er y pwysau gan America, dywedodd Israel eu bod nhw’n bwriadu parhau gydag ymosodiad ar y ddinas sy’n cynnwys 1.4 miliwn o bobl, gyda hanner o’r rheini yn blant.
Llun: Wochit