Newyddion S4C

Rhieni merch a fu farw drwy hunanladdiad yn creu cerflun i ddathlu ei bywyd

11/05/2024

Rhieni merch a fu farw drwy hunanladdiad yn creu cerflun i ddathlu ei bywyd

Rhybudd: Mae’r erthygl ganlynol yn trafod hunanladdiad ac fe all beri gofid i rai.

“Dyda ni ddim eisiau i bobl edrych i ffwrdd - yn lle hynny, siaradwch am yr hyn sy’n digwydd yn eich bywydau.”

Mae Dafydd a Helen Roberts o Eryri a gollodd eu merch drwy hunanladdiad wedi creu cerflun allan o goeden i ddathlu ei bywyd.

Bu farw Taylor Jane Roberts yn 21 oed ar 25 Hydref 2018 ar ôl cymryd ei bywyd y tu ôl i’w chartref yn Rhyd Ddu.

Wrth siarad â Newyddion S4C, dywedodd ei mam Helen: “Roedd hi'n ddoniol ac yn hwylus, ac roedd hi'n berson awyr agored. Fe aeth yn sownd yn y goeden honno lawer gwaith, ac fe roedd siglen yn arfer bod yno.”

Ond roedd Taylor hefyd yn “wael iawn” gyda’r cyflwr iechyd meddwl sgitsoffrenia, sy’n effeithio 1 o bob 100 o bobl yn ôl yr elusen Mind.

“O’n i'n gwybod y byddai hi'n marw un diwrnod, byddai'n siarad yn eithaf agored nad oedd hi eisiau bod yma ddim mwy,” meddai Helen.

“Un diwrnod, mi nes i ddod adref, ac roedd hi wedi gwneud yr hyn oedd wedi dweud ei bod yn mynd i'w wneud, a doedd hi ddim yma.”

Image
Taylor Roberts
Bu farw Taylor Jane Roberts yn 21 oed ar 25 Hydref 2018 ar ôl cymryd ei bywyd

Coeden Taylor

Ar ôl marwolaeth Taylor, doedd Helen a Dafydd ddim yn gwybod beth i’w wneud â’r goeden lle y bu farw.

Roedd y goeden wedi chwarae rôl fawr ym mhlentyndod nifer o drigolion y pentref, gan gynnwys plentyndod plant eu hunain.

“Dw i’n meddwl y byddai'n hawdd teimlo’n flin a thorri'r goeden i lawr a smalio nad yw’r rhan yma o'n bywydau erioed wedi digwydd,” meddai Helen.

“Ond ni allwch smalio nad oedd eich merch wedi cymryd bywyd ei hun yn agos at eich tŷ.”

Yn hytrach na thorri’r goeden i lawr, fe benderfynodd y teulu i weithio â cherflunydd i “roi rhywbeth yn ôl i'r gymuned”.

“Mi natho ni benderfynu bod ni eisiau gwneud rhywbeth er mwyn rhoi rhywbeth yn ôl i’r gymuned, ac i bobl sy’n pasio gael gweld rhywbeth i ddechrau sgwrs, i helpu pobl eraill,” meddai Dafydd.

Fe gysylltodd Helen a Dafydd â Rob Dalton o Wrecsam sy’n arbenigo mewn gwneud cerfluniau allan o bren.

“Mae pobl yn aml yn gofyn i mi wneud cerfluniau cofeb, fel arfer yn ymwneud ag anifeiliaid anwes. Felly roedd cael cyfle i wneud rhywbeth fel hyn yn wirioneddol arbennig,” meddai Rob, sy'n dioddef o'r cyflwr PTSD.

Roedd Rob yn awyddus i greu cerflun a fyddai'n dathlu bywyd Taylor yn ogystal â chodi ymwybyddiaeth am iechyd meddwl.

A dyna beth wnaeth arwain y teulu i greu Coeden Siarad a Gwrando Taylor (Taylor's Talking Listening Tree), sef cerflun lliwgar gyda seddi o’i gwmpas er mwyn annog trafodaeth.

Image
Helen a Dafydd Roberts
Mae Helen a Dafydd Roberts wedi cydweithio â Rob Dalton i greu cerflun allan o'r goeden ble y bu farw eu merch

Mae’r goeden bellach ar ei newydd wedd - yn bedwar metr o uchder, ac wedi ei gorchuddio â phryfaid gwas y neidr.

Daeth egin y syniad o'r llyfr Water Bugs & Dragonflies gan Doris Stickney, sy’n defnyddio taith bywyd y pryfyn i egluro marwolaeth i blant.

“Roedd hi’n egluro be’ oedd yn digwydd, bo’ chi fatha bugs o dan y dŵr ac yn tyfu i fyny i fod yn was y neidr,” meddai Dafydd. “Wedyn unwaith bo’ chi ‘di newid i was y neidr, odda chi methu mynd yn ôl i’r dŵr. Mae’n egluro’r ddau wahanol fywyd - bywoliaeth a marwolaeth.”

Yn eistedd ar ben y goeden mae cerflun bwncath, aderyn sydd yn aml i’w weld yn Eryri ac un sy’n cysuro Helen ar y dyddiau anodd. 

“Yn fy myd i, mae ‘na ran fach o Taylor yn y bwncath, ac mae’n fy atgoffa y bydd bob dim yn iawn,” meddai.

'Dechrau sgwrs'

Yn ôl Dafydd, mae’r cerflun yn “boblogaidd” ymysg cerddwyr.

“Mae pobl hyd yn oed wan, tra oedda nhw wrthi yn gwneud y sculpture, yn pasio ac yn holi ac yn siarad,” meddai. “Mae o jest yn wbath i ddechrau’r sgwrs pan mae rhywun yn cerdded mae o’n haws siarad a cherdded.

“Os ydi rhywun yn dechrau siarad, mae hynny’n ddechreuad i gael help a sbïo be arall sydd allan yna lle bod rhywun ar ben ei hun. Mae o’n ffor', yn enwedig allan yn y wlad, lle does na’m llawer o’m byd.

“A dydi rhywun ddim yn disgwyl ei weld o allan yn fan hyn, felly mae’n rhywbeth gwahanol i bobl ddod ar ei draws.”

Yn y dyfodol, mae Helen, Dafydd a Rob yn gobeithio gweld mwy o goed siarad a gwrando, boed hynny mewn ysbytai, ysgolion neu fannau cyhoeddus.

Ond am y tro, mae’r tri am fwynhau ffrwyth eu llafur - ac mae'n edrych fel petai'r cerflun yn codi calonnau yn barod.

Dw i am i bobl basio'r cerflun a gwenu, a nawr maen nhw'n gwneud hynny,” meddai Helen.

“Dw i’n meddwl y byddai Taylor yn gwenu pe bai hi’n gweld y goeden.” 

Os ydych wedi cael eich effeithio gan faterion sydd yn cael eu trafod yn yr erthygl hon, mae cymorth ar gael yma.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.