Newyddion S4C

Louis-Rees Zammit ddim yn gweld eisiau rygbi – ond yn gweld eisiau cacennau cri

ITV Cymru 10/05/2024
Pice ar y Maen

Mae Louis-Rees Zammit wedi dweud ei fod yn credu iddo wneud y peth iawn yn gadael rygbi – ond ei fod yn gweld eisiau un peth am adref.

Dywedodd chwaraewr newydd y Kansas City Chiefs ei fod yn ysu am gael cacen gri (Welsh cake) yn ei gartref newydd.

Dywedodd ei fod yn credu bod y “gambl” o adael Cymru a rygbi bellach wedi talu ei ffordd.

Cafodd ei ddewis yn rhan o garfan hyfforddi y Kansas City Chiefs, sydd wedi ennill dwy Super Bowl yn olynol.

“Dw i’n gweld eisiau’r pice ar y maen, dw i ddim yn mynd i ddweud celwydd wrthoch chi,” meddai.

“Nhw oedd fy ffefryn.

“Rwy’n falch iawn o fod yn Gymro. Cymru yw’r wlad orau yn y byd yn fy marn i. 

“Dwi’n colli popeth amdani ond yn bendant fy nheulu a fy ffrindiau.”

‘Heriol’

Ychwanegodd ei fod yn gweld pêl-droed Americanaidd yn fwy cymhleth na rygbi wrth iddo ddechrau hyfforddi gyda’r Kansas City Chiefs.

Dywedodd ei fod wedi gorfod dysgu tua 1,000 o symudiadau tactegol gwahanol yn hytrach na’r “tua 60” oedd rhaid eu dysgu wrth chwarae rygbi.

“Mae wedi bod yn heriol yn feddyliol,” meddai. 

“Roeddwn i’n gwybod pa mor anodd oedd hi am fod a faint oedd rhaid i mi ei wybod.

“Ond mewn gwirionedd mae gweld y llyfr tactegau o’ch blaen a faint sy’n rhaid i chi ei ddysgu yn wahanol iawn.

“Mae’n debyg eich bod chi’n dysgu hyd at 1,000 o symudiadau tactegol yn ystod y tymor yn yr NFL. 

“Mewn rygbi, mae'n rhaid i chi ddysgu tua 60.

“Mae’n wahanol iawn ac yn rhywbeth sy’n hollol newydd i fi. 

“Ond rydw i wrth fy modd yn ei ddysgu ac yn dysgu'r gwahanol arddulliau chwarae, a gwahanol setiau."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.