Newyddion S4C

Dim lle i arddangos anfeiliad yn Y Sioe Frenhinol yn 'siom' wedi i lefydd gwerthu allan o fewn deuddydd

10/05/2024

Dim lle i arddangos anfeiliad yn Y Sioe Frenhinol yn 'siom' wedi i lefydd gwerthu allan o fewn deuddydd

Mae'n rhoi y byd i'w hanifeiliaid. Anifeiliaid yw ei byd.

"Ni 'di bod yn arddangos yn y Sioe Frenhinol ers blynyddau."

Ac Olwen eisoes yn bencampwr cenedlaethol dan 7 a than 12 oed y gobaith eleni gyda'r cyfle olaf a hithau'n 15 oedd ennill y gystadleuaeth dan 16 yn y Sioe.

"Mae'r Beltex, Blue Texel a'r Spotty."

Ond mae'r ffenest er mwyn gwneud cais i arddangos wedi cau er dyw'r dyddiad cau ddim tan y 19fed o'r mis.

Gyda mwy nag erioed yn cystadlu, mae Olwen ar restr aros heb le i ddangos ei defaid yn Sioe Fawr Llanelwedd.

"Mae digon o opsiynau i gael. Allen nhw roi tent lan i annog y ffermwyr i ddod. Dyma'r unig ffenestr siop sydd i gael i ffermwyr i arddangos a gwerthu'r stoc i bobl eraill. Maen nhw'n cau'r gat ar y ffermwyr ar ddiwedd y dydd."

Fe dderbyniodd y trefnwyr dros 1,000 o geisiadau arddangoswyr defaid o fewn deuddydd agor y cyfnod cofrestru. Mae hynny'n beth da, ydy ond mae'n golygu bod dros 100 o deuluoedd ar restrau aros.

Mae nifer yn siomedig. Dw i wedi siarad gyda sawl un sy'n grac iawn hefyd. Maen nhw'n galw ar y trefnwyr i flaenoriaethu'r anifeiliaid sy'n greiddiol i bwrpas y Sioe. Ac i roi cyfle i'r Cymry hynny sy wedi bod yn gefnogol i'r Sioe ers degawdau.

"Dw i'n deall y sylwadau. Rhaid i ni sicrhau cydbwysedd ar draws y Sioe. Rhaid cael digon o le i'r gwartheg, y moch a'r geifr yn ogystal â'r holl stondinau sy'n dod i'r Sioe.

"Mae'n anodd gwneud y penderfyniadau. Ni'n edrych ar bob opsiwn ble allwn ni weld oes 'na fwy o le. "Falle fydd 'na ffordd o gael mwy o lociau mewn.

"Fyddwn ni'n cysylltu gyda'r arddangoswyr hynny maes o law."

"Ni 'di bod yn y sioea ers blynyddau mawr. Lleol i ddechrau a wedyn y Sioe Frenhinol."

Mae'r profiad wedi arwain at lwyddiannau diweddar. Ond bydd dim cystadlu eleni.

"Mae'r ffaith bod y dyddiad cau wedi newid yn rhwystredigaeth. Daeth pedwar neu bump ata i yn y farchnad yn Llanybydder bod nhw ddim ar y rhestr fer, y waiting list. A'r rheiny wedi bod yn dod a chi ddim yn gallu paratoi stoc fel'na.

"Ni wedi paratoi o ddechrau'r flwyddyn o ran bwydo a paratoi. Mae'n siomedig wedyn os na fyddwn ni'n gallu mynd."

"Nid ar chwarae bach chi'n mynd i'r Sioe Frenhinol, chi'n mynd i ennill."

Mae Mam Olwen yn teimlo y byddai modd aildrefnu er mwyn creu rhagor o le yn Llanelwedd.

"Na yw'r ateb i gau ceisiadau. Na yw gweud i unrhyw ffarmwr bod dim hawl gyda nhw i gystadlu. Mae'n ofnadwy bod nhw'n gwneud shwt beth. Balchder yw bod cymaint eisiau dangos yn y Sioe.

"Yn anffodus, dyw'r Sioe ddim yn falch bod ni eisiau cystadlu."

Mae'r Sioe yn galw am unrhyw un sydd sy ddim yn bwriadu cystadlu ond sydd wedi gwneud cais i gysylltu mor fuan â phosib fel bod cymaint ag sy'n bosib yn cael cyfle eleni i arddangos yn y Sioe sy'n cael ei chydnabod fel un o oreuon y byd.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.