Newyddion S4C

Prifysgol Bangor yn annog protestwyr Gaza ‘i ystyried effaith eu gweithredoedd’

10/05/2024
Y gwersyll

Mae Prifysgol Bangor wedi annog protestwyr sydd wedi sefydlu gwersyll o flaen canolfan Pontio i “ystyried effaith eu gweithredoedd”.

Mae nifer o wersylloedd o’r fath wedi eu sefydlu ym mhrifysgolion y Deyrnas Unedig gan ddilyn esiampl protestwyr yn yr Unol Daleithiau sy'n gwrthwynebu yr ymladd yn Gaza. 

Mae Prifysgol George Washington yn yr Unol Daleithiau wedi gweld gwersylloedd yn cael eu clirio ac arestiadau gan yr heddlu.

Cafodd y gwersyll y tu allan i Pontio ei sefydlu ddydd Mercher.

Dywedodd y protestwyr eu bod nhw’n gwrthwynebu penderfyniad y brifysgol i fuddsoddi yng nghwmni Siemens sy’n darparu technoleg ar gyfer Israel.

Mae deiseb wedi ei sefydlu ar wefan Undeb y Brifysgol yn galw arnyn nhw i roi’r gorau i roi’r gorau i fuddsoddi.

Dywedodd Prifysgol Bangor eu bod nhw’n “cydnabod yr hawl i fyfyrwyr brotestio'n gyfreithlon” ond ei fod yn “codi materion iechyd a diogelwch”.

‘Blaenoriaeth’

Mewn neges at y protestwyr fe ddywedodd y brifysgol: “Er ein bod yn cydnabod eich hawl i brotestio, rydym yn annog defnyddio sianeli cyfreithlon i fynegi eich barn yn effeithiol. 

“I’r rhai sy’n rhan o’r brotest neu am ymuno, mae’n bwysig cofio bod yn rhaid i’r Brifysgol barhau â’i gweithrediadau o ddydd i ddydd i sicrhau bod ein myfyrwyr a’r gymuned ehangach yn teimlo’n ddiogel ac yn gallu parhau â’u gweithgareddau. 

“Gofynnwn hefyd i chi barhau i ystyried ein cymuned leol, gan gydnabod yr ardal fel llwybr cyhoeddus.”

Ychwanegodd y brifysgol ei bod hi’n “adeg hollbwysig o'r flwyddyn i lawer o fyfyrwyr sy'n ymgymryd ag arholiadau ac asesiadau amrywiol. 

“Rydym wedi ymrwymo i gynnal gweithrediadau’r brifysgol fel arfer hyd eithaf ein gallu. Rydym yn annog protestwyr i ystyried effaith eu gweithredoedd yn unol â hynny. 

“Sicrhau diogelwch a lles pawb ar ein campws yw ein prif flaenoriaeth.”

Llun gan Selwyn Jones.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.