Dyn yn yr ysbyty gydag anafiadau difrifol wedi gwrthdrawiad ger Wrecsam
10/05/2024
Mae dyn yn yr ysbyty gydag anafiadau difrifol ar ôl gwrthdrawiad ffordd ar gyrion Wrecsam.
Dywedodd Heddlu Gogledd Cymru fod y gwrthdrawiad wedi digwydd ychydig cyn 7.20pm nos Iau.
Roedd y gwrthdrawiad yn ymwneud â beic modur du Suzuki GSX1250 ar yr A495 rhwng Whitchurch a Bronington.
Roedd y beic yn teithio mewn grŵp gyda beiciau modur eraill ar y pryd.
Fe gafodd y beiciwr, dyn 42 oed, ei hedfan i Ysbyty Stoke gan ambiwlans awyr, ac mae’n parhau i dderbyn triniaeth yno.
Cafodd y ffordd ei chau ar gyfer ymchwiliad ond mae wedi ailagor ers hynny.