Cyhuddo bachgen 17 oed o geisio anafu wedi digwyddiad mewn archfarchnad yng Nghaerdydd
10/05/2024
Mae bachgen 17 oed wedi cael ei arestio a'i gyhuddo o geisio anafu a dwy drosedd arall wedi adroddiadau bod dyn yn cael ei fygwth gyda twca (machete) mewn archfarchnad Tesco yng Nghaerdydd.
Fe gafodd yr heddlu eu galw i'r archfarchnad yn Llaneirwg am tua 18:00 ddydd Mawrth.
Mae'r bachgen wedi cael ei gyhuddo o geisio anafu, achosi ffrwgwd a chael arf yn ei feddiant yn gyhoeddus.
Does dim modd enwi y bachgen, sydd o ardal Trowbridge, oherwydd ei oed.
Mae'n cael ei gadw yn y ddalfa meddai'r heddlu ac fe fydd yn ymddangos yn Llys Ynadon Caerdydd ddydd Gwener.