Newyddion S4C

Yr economi allan o ddirwasgiad wedi twf cyflymach na'r disgwyl

10/05/2024
Buddsoddi ffatri Glyn Ebwy

Fe ddaeth economi’r DU allan o ddirwasgiad gyda thwf cyflymach na’r disgwyl dros chwarter cyntaf 2024, yn ôl y ffigurau swyddogol diweddaraf sydd wedi eu cyhoeddi fore dydd Gwener.

Dywedodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol bod GDP, neu gynnyrch mewnwladol crynswth wedi codi 0.6% rhwng Ionawr a Mawrth.

GDP yw cyfanswm gwerth y nwyddau sydd yn cael eu cynhyrchu a'r gwasanaethau sydd yn cael eu darparu mewn gwlad dros gyfnod o amser penodol.

Daw hyn ar ôl dau chwarter o ddirywiad economaidd - sy'n golygu dirwasgiad - yn hanner olaf 2023.

Roedd llawer o economegwyr wedi rhagweld twf o 0.4% ar gyfer y chwarter diweddaraf.

Dywedodd cyfarwyddwr ystadegau economaidd SYG, Liz McKeown: “Ar ôl dau chwarter o grebachu, dychwelodd economi’r DU i dwf cadarnhaol yn ystod tri mis cyntaf eleni.

“Roedd cryfder eang ar draws y diwydiannau manwerthu, trafnidiaeth gyhoeddus a chludiant, ac iechyd i gyd yn perfformio’n dda.

“Cafodd gweithgynhyrchwyr ceir chwarter da hefyd. 

"Cafodd y rhain eu crebachu ychydig gan chwarter gwan arall ar gyfer adeiladu.”

Wrth ymateb i’r ffigurau, dywedodd y Canghellor Jeremy Hunt: “Nid oes amheuaeth eu bod wedi bod yn ychydig o flynyddoedd anodd, ond mae ffigurau twf heddiw yn brawf bod yr economi yn dychwelyd i iechyd llawn am y tro cyntaf ers y pandemig.

“Rydyn ni’n tyfu eleni ac mae gennym ni’r rhagolygon gorau ymhlith gwledydd G7 Ewrop dros y chwe blynedd nesaf, gyda chyflogau’n tyfu’n gyflymach na chwyddiant, prisiau ynni’n gostwng a thoriadau treth gwerth £900 i’r gweithwyr cyffredin yn eu cyfrifon banc.”

Mae ysgrifennydd cartref yr wrthblaid wedi dweud bod y Ceidwadwyr “heb unrhyw gyswllt” gyda sefyllfa'r cyhoedd am ddathlu’r newyddion diweddaraf am yr economi.

Dywedodd Yvette Cooper wrth Sky News: “Mae’n ymddangos bod y Llywodraeth yn meddwl y dylem fod yn ddiolchgar am y ffaith nad ydym bellach mewn dirwasgiad a bod gennym ni dwf isel yn lle hynny.

“Rwy’n meddwl bod hyn yn dal i adlewyrchu’r ffaith bod pobl sy’n gweithio yn dal i fod yn waeth eu byd nag yr oeddent 14 mlynedd yn ôl, bod pobl yn dal i dalu mwy ar eu morgeisi, bod prisiau’n dal i fod yn llawer uwch ac mewn gwirionedd mae pobl yn teimlo dan bwysau mawr.

“Mae’r syniad o’r Ceidwadwyr yn ceisio gwneud buddugoliaeth o hyn i gyd a disgwyl i bawb feddwl ‘mae’r cyfan yn fendigedig a dydyn ni erioed wedi ei chael hi mor dda,’ yn dangos cymaint allan o gysylltiad ydyn nhw.”

Llun: Ffatri yng Nglyn Ebwyn/Gan y Llywodraeth

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.