Newyddion S4C

Joe Biden yn rhybuddio y gallai UDA roi'r gorau i gyflenwi arfau i Israel

09/05/2024
Joe Biden.png

Mae Arlywydd Unol Daleithiau America wedi rhybuddio Israel y gallai'r Unol Daleithiau roi’r gorau i gyflenwi rhai arfau os bydd y wlad yn anfon milwyr i ddinas Rafah yn Gaza.

Rafah yw cadarnle mawr olaf Hamas yn y diriogaeth, ac er gwaethaf gwrthwynebiad America, mae'n ymddangos bod Israel ar fin ymosod ar y ddinas ar raddfa fawr.

Mae swyddogion yr Unol Daleithiau wedi rhybuddio y gallai ymgyrch yn y ddinas arwain at nifer fawr o anafiadau.

Dywedodd Joe Biden y byddai'n "parhau i sicrhau bod Israel yn ddiogel" ond nad oedd "yn mynd i gyflenwi’r arfau".

“Os ydyn nhw’n mynd i mewn i Rafah, dydw i ddim yn cyflenwi’r arfau sydd wedi cael eu defnyddio i ddelio â Rafah,” meddai Joe Biden mewn cyfweliad â CNN.

“Rydw i wedi ei gwneud yn glir i (Brif Weinidog Israel Netanyahu) a’r cabinet rhyfel, dydyn nhw ddim yn mynd i gael ein cefnogaeth."

Allanfa

Dyma rybudd cryfaf yr arlywydd hyd yma dros ymosodiad posib ar Rafah ar y tir, ac mae'n nodi’r tro cyntaf iddo ddweud y gallai’r Unol Daleithiau roi'r gorau i gludo arfau i Israel.

Mae Rafah yn ne Gaza wedi bod yn bwynt mynediad allweddol ar gyfer cymorth, a’r unig allanfa i bobl sy’n gallu ffoi o Gaza ers dechrau’r rhyfel rhwng Israel a Hamas fis Hydref diwethaf.

Roedd y groesfan yn parhau ar gau fore Mercher, ond dywedodd byddin Israel eu bod yn ystyried ailagor croesfan Kerem Shalom gerllaw, oedd wedi bod ar gau am bedwar diwrnod oherwydd bygythiad rocedi Hamas.

Ddydd Llun, dywedodd Byddin Israel wrth 100,000 o bobl yn Rafah i adael rhannau dwyreiniol o'r ddinas “ar unwaith”.

Yn y cyfamser, mae ymdrechion yn parhau i gyrraedd cadoediad, ochr yn ochr â rhyddhau gwystlon Israel a charcharorion Palesteinaidd. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.