Newyddion S4C

Jonathan Davies i adael y Scarlets

08/05/2024
Jonathan Davies

Mae canolwr Cymru Jonathan Davies wedi cyhoeddi ei fod yn gadael y Scarlets ar ddiwedd y tymor.

Gwnaeth Davies ei ymddangosiad cyntaf i’r Scarlets yn 2006 ac mae wedi chwarae 209 o weithiau a sgorio 55 cais.

Dywedodd wrth bodlediad Scrum V ei fod yn gobeithio am un cyfle olaf gyda chlwb arall cyn ymddeol.

“Rwy’n mynd i golli’r lle a’r grŵp yma,” meddai.

"Rwy'n teimlo'n lwcus ac yn freintiedig iawn i fod wedi chwarae i'r clwb hwn ers cymaint o amser. Mae gen i atgofion gwych dros y blynyddoedd.

"Mae wedi bod yn anhygoel chwarae i dîm roeddwn i'n ei gefnogi ers pan oeddwn i'n ifanc. Rydw i wedi mwynhau pob munud, ond mae rhaid i bopeth dod i ben rhyw bryd."

“Rwy’n edrych ymlaen at allu treulio mwy o amser gartref gyda’r teulu.

"Byddwn wrth fy modd yn gweld a oes cyfle arall i chwarae yn rhywle arall, boed hynny dramor ai peidio. Rwy'n dal i fwynhau dod i ymarferion a chwarae. 

'Mwynhau rygbi cymaint'

Chwaraeodd Davies ei rygbi clwb iau i Sanclêr a Hendy-gwyn ar Daf cyn dod trwy academi'r Scarlets a mynd ymlaen i fod yn un o ganolwyr  gorau'r byd.

Chwaraeodd chwe gêm ar ddwy daith gyda'r Llewod, yn 2013 yn Awstralia a Seland Newydd yn 2017. Cafodd ei enwi’n chwaraewr y gyfres y daith i Seland Newydd.

Mae Davies wedi chwarae 96 gêm dros Gymru, gan fod yn gapten bedair gwaith. Mae wedi chwarae mewn dau dîm sydd wedi ennill y Gamp Lawn, wedi mwynhau dwy fuddugoliaeth arall ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad ac wedi chwarae mewn dau Gwpan y Byd.

Image
Jonathan Davies
Davies yn dathlu ennill y gynghrair gyda'r Scarlets yn 2017. Llun: Asiantaeth Huw Evans

Mae wedi cael dau gyfnod gyda’r Scarlets, naill ochr i gyfnod o ddwy flynedd yn chwarae i Clermont Auvergne yn Ffrainc.

Roedd yn ffigwr allweddol yn llwyddiant cynghrair y Scarlets yn nhymor 2016-17.

“Roedd cyfnod o bump neu chwe gêm yn 2017 pan wnes i erioed fwynhau rygbi cymaint ag y gwnes i ar yr eiliad honno,” meddai.

"Roedd y rygbi roedden ni'n ei chwarae yn gymaint o hwyl a naturiol. Roedd yn teimlo ein bod ni'n gweithredu ar ein lefel uchaf posib ac roedd y dalent yn y grŵp hwnnw mor uchel."

Curodd y Scarlets Munster yn rownd derfynol Pro12 2017, gyda Davies yn rhannu’r foment gyda’i frawd James, a wnaeth ymddeol yn Ebrill 2022 oherwydd cyfergyd ac a gafodd rôl recriwtio a chadw gyda’r Scarlets yn ddiweddarach.

“Roedd chwarae ochr yn ochr â fy mrawd yn foment arbennig arall ac mae ennill tlws yn yr un ochr ag ef yn rhywbeth rwy’n falch iawn ohono.”

 'Rhywbeth arbennig'

Roedd prif hyfforddwr y Scarlets Dwayne Peel yn chwarae pan wnaeth Davies ei ymddangosiad cyntaf yn erbyn Northampton 18 mlynedd yn ôl.

“Roedd llawer o sôn am y chwaraewr ifanc hwn yn dod drwodd o Bancyfelin,” meddai Peel.

“Roedd yn sioc oherwydd pa mor fawr oedd e'n gorfforol, roedd yn fwy datblygedig na’r rhan fwyaf o’r tîm hŷn.

"Roedd yn gryf ac yn gyflym ac fe allech chi weld yn syth fod ganddo rywbeth arbennig. 

“Mae wedi gweithio’n ddiflino ar ei gêm i ddod y rhif 13 gorau yn y byd ac mae’n esiampl i unrhyw chwaraewr ifanc sy’n dyheu am ei wneud fel chwaraewr proffesiynol.

“Rwy’n siŵr y bydd yr wythnosau nesaf yn gyfnod emosiynol iddo, gan ddweud ei ffarwel. Mae wedi bod yn rhan fawr o’r clwb hwn ers amser maith.”

Prif lun: Asiantaeth Huw Evans

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.