Ysgolion i allu amrywio mesurau Covid yn seiliedig ar risg
Ysgolion i allu amrywio mesurau Covid yn seiliedig ar risg
Fe fydd ysgolion ledled Cymru yn gallu cyflwyno mesurau diogelwch eu hunain yn seiliedig ar risg Covid-19 eu hardaloedd lleol.
Cyhoeddodd y Gweinidog Addysg, Jeremy Miles, ddydd Llun y byddai fframwaith newydd yn cael ei gyhoeddi yn hytrach nag un cyngor ar gyfer Cymru gyfan.
Wrth arwain cynhadledd Llywodraeth Cymru ddydd Llun, dywedodd Mr Miles: "Ar hyn o bryd, mae holl sefydliadau addysg yn dilyn cyngor cenedlaethol. Ond, wrth i ni symud drwy'r pandemig fe fydd angen symud i ddull mwy lleol, yn hytrach na dull cyffredinol.
"I alluogi hyn, fe fyddwn yn cyhoeddi fframwaith cenedlaethol ar gyfer pob sector addysg a fydd yn eu cefnogi i uwchraddio ac israddio ymyriadau yn seiliedig ar risg.
"Fe fydd y fframwaith yn gosod ystod o fesurau diogelwch yn ddibynnol ar y categori risg, yn seiliedig ar gategorïau risg isel, cymedrol, uchel neu uchel iawn".
"Fe fydd y fframweithiau yn caniatáu uwchraddio neu israddio mesurau gan gynnwys profi, defnydd o orchuddion wyneb a phellhau cymdeithasol", ychwanegodd y Gweinidog.
'Camau i'w cymryd'
Fe fydd y fframwaith hefyd yn gweld swigod mewn ysgolion yn dod i ben i bob pwrpas, gyda'r llywodraeth yn gobeithio gwahaniaethu rhwng cysylltiadau unigol a swigod cymdeithasol.
Dywedodd y Gweinidog Addysg wrth Newyddion S4C: "Mae’r syniad yna o swigen wedi bod yn ddefnyddiol iawn dros y flwyddyn ddiwethaf, ond mae rhaid sicrhau hefyd bo ni yn gwneud y gwahaniaeth yna".
Wrth i'r gyfradd o achosion gynyddu'n gyflym mewn rhannau o'r gogledd, fe ddywedodd y Gweinidog: "Mae camau y gallwn ni gyd eu cymryd i leihau trosglwyddiad ac mae'r camau rhain yn parhau i fod yn bwysig iawn".
Mae ffigyrau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dangos fod y gyfradd o achosion o Covid-19 dros gyfnod o saith diwrnod wedi cynyddu i 53.1 i bob 100,000 o'r boblogaeth.
Ond, mae dwy sir yng Nghymru wedi gweld cyfraddau'n croesi 100 achos i bob 100,000 o'r boblogaeth, gyda'r gyfradd ar ei huchaf yn Sir y Fflint (142.9) a Sir Ddinbych (104.5).
Ymhlith rhai o'r mesurau posib i'w hystyried, mae brechu disgyblion rhag Covid-19.
Ar hynny, fe ddywedodd Mr Miles: "Rydym yn parhau i aros am gyngor y Cydbwyllgor ar Frechu ac Imiwneiddio - fe fydd hynny'n arwain unrhyw benderfyniad y byddwn yn ei gymryd ac mae hwnnw wedi ei ddisgwyl yn yr wythnosau sydd i ddod".
Daw diweddariad y Gweinidog wrth i nifer o ysgolion mewn sawl rhan o Gymru orfod cau yn rhannol oherwydd achosion positif o Covid-19 ymhlith eu disgyblion a staff.
Mae'r llywodraeth yn gobeithio y bydd y sefyllfa iechyd cyhoeddus wedi gwella erbyn i ysgolion ddychwelyd ym mis Medi ond wedi rhybuddio na fydd hi'n bosib dychwelyd i fywyd normal yn syth.