Actores Grease yn marw yn 72 oed
Bu farw'r actores Susan Buckner, a oedd yn fwyaf adnabyddus am chwarae rhan y cymeriad Patty Simcox yn y ffilm Grease.
Yn ôl datganiad gan ei hasiant, bu'r farw'r actores Americanaidd yn heddychlon ar 2 Mai, gyda'i hanwyliaid yn bresennol.
Dywedodd ei merch Samantha Mansfield: “Hi oedd fy ffrind gorau. A byddaf yn ei cholli bob dydd.”
Wedi ei geni yn Seattle, daeth Susan Buckner i amlygrwydd pan gafodd ei choroni'n Miss Washington mewn cystadleuaeth harddwch yn 1971, cyn cynrychioli'r dalaith yng nghystadleuaeth Miss America y flwyddyn ganlynol.
Aeth ymlaen i fod yn aelod o'r grŵp canu a dawnsio The Golddiggers.
Ond roedd yn fwyaf adnabyddus am ei rôl fel y cymeriad Patty Simcox gyda'r ddiweddar Olivia Newton-John a John Travolta yn y ffilm hynod o boblogaidd o 1978, Grease.
Wedi'r perffomiad hwnnw, ymddangosodd mewn rhaglenni fel The Love Boat, BJ And The Bear, The Hardy Boys/Nancy Drew Mysteries, a When The Whistle Blows.
Ac roedd hi'n un o actorion y ffilm Police Academy 6: City Under Siege yn 1989.
Yn ddiweddarach, cefnodd ar Hollywood er mwyn magu dau o blant, Adam Josephs a Samantha Mansfield.
Llun: Wochit