Newyddion S4C

Dau garcharor wedi marw o fewn awr mewn carchar yn ne Cymru

07/05/2024
HMP Parc.png

Mae dau garcharor, dyn 73 oed a llanc 19 oed wedi marw o fewn awr i'w gilydd mewn carchar yn ne Cymru.

Bu farw David Maggs a Michael Horton yng Ngharchar y Parc ym Mhen-y-bont ar Ogwr, ddydd Mawrth.

Bellach mae naw carcharor wedi marw yn y carchar ers 27 Chwefror.

Cafodd David Maggs, cyfrifydd wedi ymddeol, ei garcharu yn 2022 am drywanu ei wraig, Linda Maggs, fwy na 15 o weithiau gyda chyllell gegin tra roedd hi’n gorwedd yn y gwely.

Dywedodd llefarydd ar ran y carchar ym Mhen-y-bont ar Ogwr: “Bu farw Mr David Maggs, 73 oed, ddydd Mawrth 7 Mai.

“Mae ei berthynas agosaf wedi cael gwybod ac mae ein meddyliau gyda’i deulu a’i ffrindiau.

“Bu farw Mr Michael Horton, 19 oed, ddydd Mawrth 7 Mai. Mae ei berthynas agosaf wedi cael gwybod ac rydym yn cydymdeimlo â'i anwyliaid.

“Nid oedd cysylltiad rhwng eu marwolaethau.

“Mae swyddogion cyswllt teuluol yn cefnogi’r teuluoedd.

“Fel gyda phob marwolaeth yn y ddalfa, bydd yr Ombwdsmon Carchardai a Phrawf yn ymchwilio i’r rhain.”

'Allan o reolaeth'

Dywedodd llefarydd ar ran yr heddlu: “Cafodd Heddlu De Cymru eu galw rhwng 00:20 a 00:55 ddydd Mawrth Mai 7, gydag adroddiadau am ddwy farwolaeth sydyn yng Ngharchar y Parc sef dyn 73 oed a dyn 19 oed.

“Mae ymchwiliadau’n parhau i amgylchiadau’r marwolaethau. Fodd bynnag, ar hyn o bryd ni chredir eu bod yn amheus.

“Mater i Grwner EM fydd gwneud penderfyniad ar achos y marwolaethau.”

Mae Heddlu De Cymru o'r farn bod pedair marwolaeth flaenorol yn y carchar yn gysylltiedig â chyffuriau.

Wrth siarad ddydd Mawrth, awgrymodd Sarah Murphy, AS Llafur dros Ben-y-bont ar Ogwr yn y Senedd, fod y sefyllfa “yn mynd allan o reolaeth”.

Wrth ateb, dywedodd y Trefnydd a’r prif chwip Jane Hutt fod y marwolaethau yn y carchar yn “drist iawn ac yn drasig i’w teuluoedd.

“Rydych yn cydnabod mai Llywodraeth y DU sy’n gyfrifol am redeg y carchar ac nid yw wedi’i ddatganoli i Gymru ond rydym yn gweithio’n agos iawn gyda Gwasanaeth Carchardai a’r Gwasanaeth Prawf gyda meysydd datganoledig, fel iechyd a gofal cymdeithasol, lle mae gennym ni gyfrifoldebau.

“Hoffwn roi sicrwydd i Sarah Murphy bod Llywodraeth Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru a Gwasanaeth Carchardai a Phrawf wedi cyfarfod a thrafod y marwolaethau trasig a bod set o gamau gweithredu y cytunwyd arnynt yn cael eu rhoi ar waith i helpu i leihau'r risg o niwed yn y dyfodol.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.