Newyddion S4C

Tân llety myfyrwyr: Pedwar wedi derbyn triniaeth yn yr ysbyty

07/05/2024
Tân yn Abertawe

Cafodd pedwar o bobl driniaeth ysbyty ar ôl tân mewn llety myfyrwyr yn Abertawe nos Lun.

Cafodd 10 o griwiau tân eu galw i Ffordd New Cut yn y ddinas am 19.33 yn dilyn adroddiadau o dân ar lawr gwaelod adeilad preswyl.

Dywedodd y Gwasanaeth Tân fod y sefyllfa yn un "hynod gymhleth" am fod 100 o fyfyrwyr wedi gadael yr adeilad ac roedden nhw yn gwybod bod yna dân mewn o leiaf un o'r fflatiau myfyrwyr.

Cafodd tri o bobl eu hachub trwy ffenestri llawr gwaelod gan y criwiau achub ac roedd pedwar o bobl wedi eu hachub cyn i'r gwasanaeth tân gyrraedd.

Fe wnaeth rhai unigolion ddioddef problemau ar ôl anadlu mwg, ac roedd rhai wedi dioddef mân anafiadau.

Fe aeth pedwar person i’r ysbyty er mwyn derbyn triniaeth ychwanegol, yn ôl Gwasanaeth Ambiwlans Cymru.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.