Newyddion S4C

Rishi Sunak yn cydnabod y gallai'r Ceidwadwyr golli yn yr Etholiad Cyffredinol

06/05/2024
Rishi Sunak Prif Weinidog

Mae'r Prif Weinidog Rishi Sunak wedi cydnabod ei bod yn bosibl na fydd y Ceidwadwyr yn ennill yr Etholiad Cyffredinol, wrth i rai o fewn ei blaid apelio arno i newid trywydd, yn sgil colledion trwm yn etholiadau lleol Lloegr.     

Mae disgwyl i'r cecru mewnol barhau wedi'r canlyniadau gwael i'r Ceidwadwyr ar lefel cynghorau sir a'r golled annisgwyl yn etholiad y maer ar gyfer Gorllewin Canolbarth Lloegr. Llafur oedd yn fuddugol. 

Tra'n siarad â The Times, awgrymodd Mr Sunak bod y Deyrnas Unedig yn wynebu senedd grog, pan nad oes gan yr un blaid fwyafrif. 

Ond honnodd na fyddai etholwyr yn dymuno gweld Syr Keir Starmer yn Downing Street yn cael ei "gynnal" gan yr SNP neu bleidiau llai.  

Tynnodd sylw at ddadansoddiad Sky News o'r etholiadau lleol, a oedd yn awgrymu mai Llafur fyddai'r blaid fwyaf wedi'r etholiad a hynny mewn senedd grog.   

“Mae'r canlyniadau hyn yn awgrymu ein bod ar ein ffordd tuag at senedd grog, a'r blaid fwyaf fydd Llafur,” dywedodd Mr Sunak wrth The Times.

“Byddai Keir Starmer yn cael ei gynnal yn Downing Street gan yr SNP, y Democratiaid Rhyddfrydol a'r Gwyrddion yn drychinebus i Brydain.  

“Dyw'r wlad ddim angen mwy o daro bargeinion, ond yn hytrach, mae angen gweithredu. Ni yw'r unig blaid sydd â chynllun er mwyn gweithredu blaenoriaethau'r bobl.”

Newid cyfeiriad

Mae'r cyn Ysgrifennydd Cartref, Suella Braverman wedi annog y Prif Weinidog i newid cyfeiriad er mwyn adennill pleidleiswyr. Cafodd ei diswyddo o'r cabinet gan Rishi Sunak fis Tachwedd. 

Ond ychwanegodd nad nawr yw'r amser i'r Ceidwadwyr newid arweinydd.

Mae rhai aelodau Llafur wedi wfftio awgrymiadau y byddai'r blaid yn ystyried ffurfio clymblaid gyda'r SNP wedi'r etholiad nesaf.

Dywedodd Pat McFadden, cydlynydd ymgyrch genedlaethol y blaid: “Ein nod yw ennill mwyafrif er mwyn llywodraethu, a dydyn ni ddim yn cynllunio i gydweithio ag unrhyw un.”

Gyda chanlyniadau yr 107 cyngor yn Lloegr wedi eu cyhoeddi, enillodd Llafur 1,158 o seddi, sy'n gynnydd o 232.

Y Democratiaid Rhyddfrydol ddaeth yn ail, drwy ennill 552 sedd, sy'n gynnydd o bron i 100.

Enillodd y Ceidwadwyr 515 o seddi, gan golli 400 sedd.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.