Y canfyddiad mwyaf o gyffur crystal meth yn hanes Heddlu De Cymru
Mae Heddlu'r De wedi gwneud eu canfyddiad mwyaf erioed o gyffur crystal meth.
Dywedodd y llu eu bod wedi gwneud y darganfyddiad brynhawn Mercher ar ôl i swyddogion stopio car yn ardal Tre-biwt yng Nghaerdydd.
Roedd y cerbyd Audi arian a gafodd ei stopio yn Nghwrt Overstone yn cynnwys cetamin, cocên, ac ecstasi.
Daethant hefyd o hyd i'r "swm mwyaf erioed o crystal meth yn hanes y llu".
Fe gafodd dyn 56 oed o Wlad yr Haf ei arestio ar amheuaeth o gyflenwi cyffuriau Dosbarth A.
Dywedodd llefarydd ar ran y llu: "Mae gennym ni bolisi dim goddefgarwch at ddelio cyffuriau ac mae'r digwyddiad yma yng Nghwrt Overstone brynhawn Mercher yn un esiampl o'r gwaith rydym ni'n ei wneud ar draws Caerdydd a Bro Morgannwg."